Ar ddydd Iau 27 Mehefin, cymerodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 o Ysgolion Cynradd ardal Aberaeron ran yng ngŵyl chwaraeon yn Ysgol Bro Sion Cwilt fel rhan o ddathliad blynyddol Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol 2019.

Cymerodd tua 117 o blant blwyddyn 5 a 6 o Ysgolion Bro Sion Cwilt, Cilcennin, Talgarreg ac Aberaeron rhan yn yr ŵyl chwaraeon. Cymerodd y plant ran mewn llawer o weithgareddau gan gynnwys rygbi, pêl fasged, sgiliau pêl, criced, dawns ac athletau.

Ymwelodd Ben Lake AS ag Ysgol Bro Sion Cwilt yn ystod yr ŵyl chwaraeon i ddathlu pwysigrwydd addysg gorfforol mewn datblygiad plant.

Cafwyd sesiynau blasu yn ystod yr ŵyl gan Glwb Criced Aberaeron ac Ysgol Ddawns ‘Jane Guy’ er mwyn ceisio annog y plant i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn dilyn yr ŵyl.

Roedd Llysgenhadon Ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Ngheredigion yn bresennol yn yr ŵyl ac wedi mwynhau siarad gyda Ben Lake AS am eu cyflawniadau. Yng Ngheredigion, mae gan bob ysgol gynradd Llysgenhadon Ifanc Efydd, â phob ysgol uwchradd Llysgenhadon Ifanc Arian ac Aur.

Dywedodd Catrin Miles, aelod Cabinet ar gyfer Wasanaethau Dysgu, “Gwych yw gweld plant Ysgolion Cynradd ardal Aberaeron yn cymryd rhan yng ngŵyl chwaraeon 2019. Mae'n bwysig iawn bod plant yn cael cyfleoedd fel hyn yn ifanc er mwyn eu hannog i fyw bywyd iach, yn ogystal â datblygu sgiliau a gwella eu lles.”

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Rydym yn falch iawn o’n prosiectau chwaraeon ar gyfer oedran cyn-ysgol, meithrinfeydd, plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a hefyd ar gyfer y gymuned. Braf oedd cael gwahodd Ben Lake AS i ymweld ag Ysgol Bro Sion Cwilt yn ystod yr ŵyl chwaraeon fel ei fod yn gallu gweld rhai o'n prosiectau gwych ar waith.”

Cynhelir gwyliau chwaraeon bob tymor ar gyfer bob clwstwr mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir e.e. Aberystwyth, Tregaron, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a Llandysul. Mae’r gwyliau’r Hydref yn cael eu cynnal ar gyfer plant y cyfnod sylfaen, gwyliau tymor y Gwanwyn ar gyfer plant blwyddyn 4 a 5 a gwyliau tymor yr Haf yn benodol ar gyfer blwyddyn 5 a 6.

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook neu Twitter Ceredigion Actif neu’r wefan www.ceredigionactif.org.uk.
Gallwch hefyd cysylltu â Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol ar 01970 633 695 neu drwy e-bost ar Alwyn.Davies@ceredigion.gov.uk.

05/07/2019