Mae ysgolion uwchradd Ceredigion wedi mynd yr ail filltir i gynhyrchu mwy na 2,800 o feisorau mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Mae pob un o adrannau Dylunio a Thechnoleg ysgolion uwchradd y sir wedi bod yn rhan o’r broses hon, sef Ysgol Henry Richard, Ysgol Penglais, Ysgol Penweddig, Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Bro Teifi.

Dros gyfnod o ychydig wythnosau, mae athrawon yr adrannau hyn wedi creu feisorau o blastig gan ddefnyddio peiriannau laser neu beiriannau argraffu 3D yr ysgolion, gyda Chyngor Sir Ceredigion yn darparu’r deunyddiau.

Mae feisorau o’r fath yn angenrheidiol i ddiogelu gweithwyr rheng-flaen Ceredigion, ac mae parodrwydd yr athrawon i gynnig cymorth ymarferol mewn adeg heriol yn destun clod.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn hynod falch o’n gweithlu, ac mae ymroddiad anhygoel staff ein hadrannau Dylunio a Thechnoleg i ddarparu feisorau angenrheidiol yn un enghraifft o’r modd y mae athrawon Ceredigion wedi mynd yr ail filltir i helpu eraill.”

24/04/2020