Cafodd y Cynllun Lleihau Plastig a Phecynnau yng Ngheredigion ei lansio ar 16 Ebrill 2019, ac maent yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Ceredigion ynghyd ag elusen amgylcheddol wirfoddol Cymru o’r enw Cadwch Gymru’n Daclus. Nod y cynllun yw annog busnesau, ysgolion, caffis a siopau prydau parod yng Ngheredigion i ailfeddwl eu defnydd o blastig a phecynnau.

Ysgol Craig y Wylfa oedd yr ysgol gyntaf yng Ngheredigion sydd wedi’u dyfarnu gyda thystysgrif achredu. Mae ysgolion cynradd Cei Newydd, Aberaeron, Llechryd, Bro Sion Cwilt, Comins Coch, Rhydypennau, Llanon a Llangwyryfon wedi cael eu gwobrwyo â thystysgrif hefyd.

Mae pob ysgol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwelltynnau plastig, ac maent yn gweithio i leihau eu defnydd cyffredinol o blastig. Mesurau eraill y mae rhai ysgolion wedi'u rhoi ar waith yw lleihau plastig yn y gymuned drwy ailddefnyddio bagiau ac ailgylchu hen wisgoedd ysgol. Mae Ysgol Craig y Wylfa wedi cyflwyno bin compost sy'n caniatáu i wastraff bwyd, gan gynnwys ffrwythau, gael ei waredu yn y ffordd gywir.

Dywedodd disgyblion Ysgol Craig y Wylfa, Lily Jones a Rose Bird, “Rydym yn credu bod e’n bwysig iawn lleihau'r defnydd o blastig gan fod anifeiliaid mewn perygl. Hefyd, mae’n effeithio ar ein hamgylchedd. Mae gan dros 90,000 o adar môr y byd, blastig yn eu boliau!”

Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion, “Mae ein pobl ifanc yn meddwl lot am faterion fel llygredd plastig a'r newid yn yr hinsawdd. Mae Cynllun Achredu Lleihau Plastig a Phecynnau yng Ngheredigion yn rhoi cyfle i bobl ifanc fynd ati i wneud gwahaniaeth fel cymuned ysgol a dathlu eu cyflawniadau wrth helpu i leihau plastig yn ein cefnforoedd."

Alun Williams yw’r Aelod Eiriolwr ar gyfer Cynaladwyedd. Dywedodd, “Pan ddaeth graddfa llygredd plastig ar hyd ein harfordir ac yn ein cymdeithas yn gyffredinol yn adnabyddus am y tro cyntaf, daeth cymunedau lleol ar hyd Ceredigion i gamu ymlaen i ymgymryd â'r her. Cydnabu Cyngor Ceredigion yn gyflym, fel awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ysgolion a llawer o wasanaethau eraill, gallem wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy newid ein ffordd o weithio a'r deunyddiau a ddefnyddiwn yn ein gweithgareddau bob dydd.

Rydym wrth ein bodd bod ein hysgolion wedi dangos cymaint o frwdfrydedd dros leihau eu defnydd o blastig, a rhaid canmol ein henillwyr gwobrau sydd wedi dangos eu bod yn barod i fod ar flaen yn yr ymgyrch bwysig hon.”

Sefydlwyd y cynllun gyda chyllid o Gyfoeth Naturiol Cymru mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth a hefyd i geisio lleihau'r swmp cynyddol o blastig sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd morol.

Os hoffech chi gael ymuno a’r Cynllun Lleihau Plastig a Phecynnau yng Ngheredigion neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â melanie.heath2@ceredigion.gov.uk.

 

08/07/2019