Bydd ysgolion Ceredigion yn anelu at ailagor i bawb ar gyfer darpariaeth wyneb yn wyneb ddydd Llun, 10 Ionawr 2022.

Bydd darpariaeth dysgu o bell ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion ddydd Gwener, 7 Ionawr 2022. Bydd rhai grwpiau eraill o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion blynyddoedd 11 a 13 yn mynychu’r ysgol ddydd Gwener, 7 Ionawr 2022 gyfer darpariaeth wyneb yn wyneb.

Mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i fod yn eithriadol o uchel ar gyfradd o 1,587 fesul 100,000 o'r boblogaeth, gyda 1,154 o achosion yn cael eu hadrodd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf.

Mae absenoldebau staffio cynyddol ar draws pob rhan o waith y Cyngor o ganlyniad i amrywiolyn Omicron. Bydd ailagor ysgolion yn llawn ar 10 Ionawr 2022 yn caniatáu rhoi trefniadau wrth gefn ar waith er mwyn sicrhau staffio gwasanaethau rheng flaen i’r mwyaf bregus yn y gymdeithas. Rydym yn galw ar ein gweithlu i wirfoddoli i fod wrth gefn rhag ofn y bydd eu hangen i gynorthwyo, yn arbennig yn y sector gofal.

Ar brydiau, gall absenoldebau staffio mewn ysgolion arwain at ddysgu o bell am gyfnod. Bydd ysgolion yn parhau i weithredu oddi fewn i amodau heriol a diolchwn i bawb am eu cydweithrediad.

04/01/2022