Dros y dyddiau diwethaf, mae nifer yr achosion positif o’r coronafeirws yn Aberteifi a’r cyffiniau wedi lleihau.

Cymerodd y Cyngor gam pendant i gau’r ysgolion yn yr ardal ac atal gwasanaethau eraill wrth iddi ddod i'r amlwg fod yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion yn yr ardal. Mae cymorth, cydymffurfiaeth a chydweithrediad rhagorol trigolion Aberteifi dros y bythefnos ddiwethaf wedi lleihau lledaeniad y feirws yn y gymuned yn llwyddiannus, a hynny i lefel y gellir ei rheoli.

Mae’r data yn amlygu fod yna ostyngiad sylweddol wedi bod yn lefel y feirws dros yr wythnos diwethaf hyd at y pwynt lle rydym yn hyderus y gallwn ailagor Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol Gynradd Penparc, Ysgol Gynradd Aberporth, Ysgol Gynradd Llechryd, Ysgol Gynradd Cenarth ac Ysgol Gynradd T Llew Jones ar gyfer disgyblion a staff o ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020.

Bydd meithrinfeydd Dechrau’n Deg yn ailagor hefyd yn Aberteifi ac Aberporth o 7 Rhagfyr 2020.

Yn ogystal â hyn, bydd Llyfrgell Aberteifi yn ailagor trwy gynnig gwasanaeth ‘clicio a chasglu’ a bydd gwasanaeth y llyfrgell deithiol yn ailddechrau yn yr ardal o ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020.

Bydd Parth Diogel Aberteifi hefyd yn dod i ben am 4:30pm ddydd Sadwrn, 5 Rhagfyr 2020, a bydd y ffyrdd yn parhau ar agor yn ddyddiol. Bydd taliadau am barcio hefyd yn cael eu hailgyflwyno ym meysydd parcio y Cyngor o 7 Rhagfyr 2020.

Fodd bynnag, nid nawr yw’r amser i laesu dwylo. Gofynnwn i bawb barhau i ddilyn y canllawiau. Yn fwy cyffredinol ledled Ceredigion, mae nifer yr achosion positif yn parhau i gynyddu.

Gofynnwn i chi barhau i fod yn wyliadwrus. Cofiwch y pethau y gall pawb eu gwneud i gadw ein gilydd yn ddiogel:
• Cadw pellter cymdeithasol 2 fetr oddi wrth eich gilydd pan fyddwch chi allan o gwmpas;
• Golchi eich dwylo yn rheolaidd;
• Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
• Gweithio gartref lle bynnag y bo modd;
• Gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae symptomau o’r coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd parhaus neu newid neu golli eich synnwyr blas neu arogli. Byddwch yn ymwybodol o symptomau eraill o’r dechrau, e.e. cur pen, blinder a phoenau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Rydym yn annog pawb sy’n teimlo’n sâl i fod yn hynod o ofalus, gan gynnal hylendid dwylo a chadw pellter yn benodol, ac os oes gennych amheuon, archebwch brawf.

Ond dylech ddim ond archebu prawf os oes gennych symptomau. Os byddwch yn cael prawf pan nad oes gennych symptomau ac yn cael canlyniad negatif, bydd dim ond yn dweud wrthych nad oes gennych y feirws ar y diwrnod hwnnw yn unig.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Os ydych wedi dod i gysylltiad ag achos positif neu os oes gennych chi neu aelod o'ch aelwyd symptomau, rhaid i chi i gyd hunan-ynysu ar unwaith. Mae hyn yn golygu na allwch adael y tŷ am ddim rheswm, heblaw mynd am brawf.

Os ydych chi'n cael prawf positif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eich symptomau, sy'n golygu y gallwch chi adael eich tŷ ar ddiwrnod 11.

Os ydych chi'n gysylltiad achos positif, rhaid i chi hunan-ynysu am 14 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eu symptomau, sy'n golygu y gallwch chi adael y tŷ ar ddiwrnod 15. Mae'n hanfodol bod unrhyw un sydd angen hunan-ynysu yn cwblhau'r nifer llawn o ddiwrnodau.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

04/12/2020