Bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron yn cael eu dysgu o bell yn dilyn achosion o COVID-19 yn yr ysgol.
Mae Grwpiau Cyswllt eisoes yn hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Oherwydd heriau staffio, bydd yr ysgol gyfan yn cau ac yn symud i dysgu o bell o ddydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020 tan ddydd Gwener, 18 Rhagfyr 2020.
Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
10/12/2020