Ar 27 Chwefror, cafodd Ysgol Penglais eu gwobrwyo gyda gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, mewn cydnabyddiaeth am eu cefnogaeth ac ymrwymiad i ofalwyr a’u teuluoedd – yr ysgol gyntaf yng Ngheredigion i dderbyn y wobr hon.

Mae’r wobr Lefel Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gynllun safonau ansawdd partneriaeth ranbarthol, sy'n cael ei gyflwyno trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid y trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Sir Ceredigion a Sir Benfro.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod o’r cabinet a chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dechrau’n Deg, Tîm o amgylch y Teulu a Pencampwr Pobl Ifanc Ceredigion, “Mae wedi bod yn fraint a phleser mawr i ymweld ag Ysgol Penglais i gyflwyno eu Pennaeth Cynorthwyol, Karina Shaw, gyda gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Penglais yw’r ysgol gyntaf i dderbyn y Wobr – acolâd mawr i Karina â’r tîm â chyfrifoldeb am gyflawni’r llwyddiant yma. Trwy adnabod a chyfeirio Gofalwyr Ifanc, yn ogystal ag atgoffa pawb o’r pwysigrwydd o ymwybyddiaeth Gofalwyr, mae pob Gofalwyr Ifanc yn derbyn y gefnogaeth a’r wybodaeth nhw angen. Medrant wybod nad ydynt ar eu pen eu hunan yn yr heriau y byddant efallai yn eu hwynebu wrth gynnal eu siwrnai academaidd tra’n gofalu a chefnogi am aelod o’r teulu adref.”

Datblygwyd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yng Ngheredigion yn 2006 ac ers 2013 bu'n rhan annatod o Strategaeth Gorllewin Cymru ar gyfer Gofalwyr. Mae hefyd yn helpu i ddiwallu anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a blaenoriaethau cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Oedolion a Phobl Ifanc.

Dywedodd Karina Shaw, Pennaeth Cynorthwyol ac Arweinydd Gofalwyr, “Rydym wrth ein bodd i fod yr ysgol gyntaf yng Ngheredigion i gael ein gwobrwyo gyda gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, mewn cydnabyddiaeth o’r gefnogaeth a ddarparwyd i’n Gofalwyr Ifanc. Mae gan bob disgybl ym Mhenglais stori unigol i ddweud, fodd bynnag, dw i dal yn cael fy ysbrydoli gan ein disgyblion sy’n Ofalwyr Ifanc. Maen nhw’n cefnogi nid yn unig eu hunan, ond aelodau o’u teuluoedd, weithiau mewn sefyllfaoedd anodd iawn. Mae staff Penglais yn gwbl ymrwymedig i barhau i weithio ochr yn ochr â’n Gofalwyr Ifanc i’w cefnogi o ran eu haddysg a’u lles.”

Cynlluniwyd y fenter Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd fel fferyllfeydd, meddygfeydd meddygon teulu ac ysbytai i ganolbwyntio ar, a gwella eu hymwybyddiaeth gofalwyr a gwella'r cymorth a'r gefnogaeth y maent yn cynnig i ofalwyr. Mae'r cynllun bellach wedi ei ddatblygu ar gyfer lleoliadau addysg gydag ysgolion uwchradd a cholegau.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr ewch i www.hywelddahb.wales.nhs.uk/carers neu am gyngor defnyddiol i ofalwyr, ewch i www.ceredigion.gov.uk/carers.

05/03/2018