Ar ddydd Llun, 1 Hydref, croesawodd Ysgol Henry Richard yr adran gynradd i’r ysgol, yn dilyn cwblhad estyniad i’r ysgol. Mae’r estyniad yn cynnwys adeilad newydd i’r ysgol gynradd ac ailwampiad o’r adeilad uwchradd.

Mae Ysgol Henry Richard nawr yn darparu addysg i ddisgyblion o dair i 16 oed mewn un lleoliad. Mae 126 o blant oedran cynradd yn mynychu’r ysgol.

Dywedodd Dorian Pugh, Pennaeth Ysgol Henry Richard, “Rydym yn gyffrous iawn ac wrth ein boddau i gael disgyblion tri i16 ar un safle. Mae’r cyfleusterau yn wych ac yn cynnig cyfleoedd arloesol i ddisgyblion yr ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae adeilad newydd yr ysgol gynradd yn ddatblygiad ffantastig i addysg disgyblion Tregaron a’r ardaloedd o gwmpas am flynyddoedd i ddod. Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn longyfarch a diolch i staff yr ysgol am eu gwaith caled ac ymroddiad i sicrhau symudiad esmwyth i’r athrawon a’r disgyblion i’w lleoliad newydd yn Ysgol Henry Richard.”

08/10/2018