Bydd Ysgol Gynradd Dihewyd ar gau tan ddydd Iau, 17 Rhagfyr 2020. Mae’r un Grŵp Cyswllt yn hunan-ynysu am gyfnod o 14 niwrnod oherwydd achos o COVID-19 ac oherwydd diffyg staffio, bydd yr ysgol gyfan yn cau.
Gofynnwyd i'r disgyblion yn y Grŵp Cyswllt sydd wedi ei effeithio i hunan-ynysu am 14 diwrnod oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni i’w hysbysu y bydd yr ysgol ar gau tan 17 Rhagfyr 2020.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
04/12/2020