Ar ddydd Llun 18 Tachwedd 2019, ymddangosodd Rhydian Jones o Waun Lluest, Gorrig, Llandysul gerbron Ynadon Aberystwyth mewn gwrandawiad apêl yn gwrthwynebu penderfyniad i beidio ag adnewyddu ei drwydded bridio cŵn.

Cymerodd Cyngor Sir Ceredigion y penderfyniad o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, oherwydd achosion o dorri amodau'r drwydded a nodwyd yn ystod arolygiadau dirybudd o'r safle. Roedd y toriadau'n cynnwys diffyg goruchwyliaeth, cyfoethogi a chymdeithasoli a roddwyd i'r cŵn. Roedd achosion o dor-trwydded yn cynnwys glanhau anfoddhaol o adeiladau ac absenoldeb cofnodion bridio cŵn. Bu methiant hefyd i wneud gwelliannau y gofynnwyd amdanynt o Mr Jones yn flaenorol. Roedd yr adroddiadau iechyd a lles a ddarparwyd yn ystod y gwrandawiad yn nodi problemau iechyd manwl gyda'r cŵn a oedd yn cynnwys llau a chlafr y cŵn.

Fe anghytunodd Mr Jones â chanfyddiadau a phenderfyniad y cyngor drwy gydol gwrandawiad yr apêl. Roedd ei amddiffyniad yn cyfeirio at y gwelliannau sylweddol a oedd wedi'u cwblhau.

Daeth y llys i'r casgliad bod y cyngor wedi darparu sail lawn a chlir dros beidio ag adnewyddu'r drwydded bridio cŵn, gan nodi bod y cyngor yn rhesymol ac yn gymesur yn ei weithredoedd. Roedd y llys yn derbyn bod y sefydliad yn anfoddhaol mewn sawl ffordd tra'n cydnabod bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud. Cymerwyd i ystyriaeth hanes diffyg cydymffurfio yn Waun Lluest, y dystiolaeth a roddwyd gan yr apelydd a'r diffyg hyder ynddo fel trwyddedai. Daeth y llys i'r casgliad nad oedd y gwelliannau diweddar a wnaed gan Mr Jones yn debygol o gael eu cynnal a dyfarnwyd o blaid y cyngor. Gwrthodwyd yr apêl. Gorchmynnwyd i Mr Jones dalu £500 o gostau.

Alun Williams yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol y cyngor sy'n gyfrifol am Bolisi a Pherfformiad. Dywedodd; “Rydym yn falch iawn bod ynadon wedi dyfarnu o’n plaid. Ni chymerir penderfyniad i beidio ag adnewyddu trwydded yn ysgafn a bu'n rhaid i swyddogion a chyfreithwyr y cyngor adeiladu achos cadarn i'w gyflwyno i'r llys. Byddwn yn parhau i gynnal ymweliadau arolygu dirybudd â phob bridiwr cŵn trwyddedig yn y sir. Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gweithredu yn ddiogel o fewn rheoliadau ac amodau eu trwydded. Byddwn hefyd yn mynd ar ôl yr unigolion hynny sy'n bridio cŵn heb drwydded. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am weithgareddau o'r fath gysylltu â'r cyngor ar 01545 570 881.”

Yn y gorffennol, roedd gan Mr Jones drwydded i fridio 26 o gŵn. Roedd ei sefydliad wedi ymddangos yn ddiweddar mewn rhaglen ddogfen ymchwiliol BBC Cymru, er bod y cyngor wedi penderfynu peidio ag adnewyddu'r drwydded sawl mis cyn ei darlledu.

26/11/2019