Yn ôl y disgwyl, mae Ceredigion eisoes yn profi i fod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr eleni.
Gan fod disgwyl i ymwelwyr rheolaidd a thro cyntaf ynghyd ag aroswyr lleol anelu am ein harfordir a'n cefn gwlad dros y misoedd nesaf, gofynnwn iddynt wneud hynny'n ddiogel ac yn barchus.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn barod i groesawu ymwelwyr a gyda mesurau ar waith i sicrhau eu bod yn mwynhau'r sir ar ei gorau yn ddiogel, mae:
- Parthau Diogel wedi'u cyflwyno yng nghanol ein trefi
- Gweithdrefnau olrhain cyswllt effeithiol ar waith
- Cynorthwywyr Ymwelwyr yn ymweld â mannau poblogaidd i gynnig cyngor a chymorth.
Fodd bynnag, mater i bob un ohonom yw gwneud Ceredigion yn le diogel a difyr i ymweld ag ef. Nid yw coronafeirws wedi diflannu, ac mae'r amrywiad diweddar yn peri pryder.
Mae'n bwysig ein bod ni yn:
- Aros yn lleol
- Cefnogi yn lleol
- Gofalu a pharchu ein gilydd
- Gofalu a pharchu ein cymunedau a'r amgylchedd
- Cyfarfod y tu allan gan ei fod yn fwy diogel na'r tu mewn
- Cadw ein cyswllt cymdeithasol mor isel â phosib
- Profi a hunan-ynysu hyd yn oed gyda symptomau ysgafn
- Parhau i ddilyn y canllawiau.
Cymerwch gyfrifoldeb a gwnewch eich rhan yr haf hwn. Gadewch i ni gadw Ceredigion yn ddiogel fel y gallwn barhau i wneud y pethau rydyn ni'n eu caru.
I gynllunio eich ymweliad â Ceredigion, ewch i dudalen Cynllunio eich Ymweliad ar wefan Darganfod Ceredigion.
25/06/2021