Yn rhan o Caru Ceredigion, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud trefniadau ar hyn o bryd i gynnal ymgyrch Glanhau y Gwanwyn.

Bydd hyn yn cynnwys codi sbwriel ar sail blaenoriaeth ar rwydwaith briffyrdd y sir.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar gytundeb ynghylch cyfrifoldebau codi sbwriel ar rwydwaith cefnffyrdd y sir, sef yr A44 a’r A487. Fodd bynnag, pe byddai cyllid ar gael gellid cyflwyno trefniadau tebyg.

O ganlyniad i ofynion iechyd a diogelwch, mae codi sbwriel ar y cefnffyrdd yn waith sy’n dibynnu’n fawr ar adnoddau a chyllid. Mae amseriad y gwaith yn bwysig i sicrhau’r budd mwyaf o ran casglu cymaint o sbwriel â phosibl ar y tro.

Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn fater sy’n amharu ar y sir o safbwynt gweledol ac amgylcheddol. Mae’n gallu bod yn arbennig o amlwg yr adeg hon o’r flwyddyn am fod lefelau’r llystyfiant yn isel. Diolch i'r drefn, mae’r rhan fwyaf o drigolion ac ymwelwyr Ceredigion yn gwerthfawrogi ac yn parchu ein hamgylchedd leol arbennig ac yn trin eu gwastraff mewn modd cyfreithiol a chyfrifol. Lleiafrif anghyfrifol ac anystyriol sy’n achosi’r broblem sy’n arwain at risgiau, costau a difrod diangen i'r amgylchedd.

Casglwyd 50 sach fawr o sbwriel ar y diwrnod cyntaf, ac mae'r tîm sy'n ymgymryd â'r gwaith wedi cael adborth cadarnhaol gan y cyhoedd.

At hyn ac yn rhan o elfen arall o Caru Ceredigion, rydym wedi gweld awydd gan fwy o bobl i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau glanhau cymunedau a thraethau. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwerthfawrogi hyn yn fawr ond gellir dim ond ei gefnogi pan fo ystyriaeth ddyledus wedi’i rhoi i ystyriaethau Iechyd a Diogelwch, sy’n cynnwys rhai sy’n benodol i COVID-19.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor mewn perthynas â hyn, ewch i wefan Cadw Cymru’n Daclus.

17/03/2021