Yn hytrach na danfon cardiau ac anrhegion at gydweithwyr, fe aeth staff Tîm Ceredigion ati i roi tuag at elusen gwerthfawr.

Yn hytrach na danfon cardiau ac anrhegion at gydweithwyr, fe aeth staff Tîm Ceredigion ati i roi tuag at elusen gwerthfawr.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd gyda Covid-19 yn effeithio ar ein bywydau i gyd. Bydd nifer yn ei gweld hi’n anodd y Nadolig hwn. Y peth lleiaf y medrwn ni wneud i’r bobl yn ein sir yw i roi ychydig yn ôl. Gobeithiwn bod yr arian a godwyd yn helpu rhywfaint i wneud pethau ychydig yn haws i deuluoedd, a’u bod yn medru mwynhau pryd o fwyd gyda’i gilydd dros gyfnod y Nadolig. Gobeithio y medrwn ddangos i gymunedau Ceredigion faint mae Tîm Ceredigion yn meddwl amdanynt.”

Cododd Tîm Ceredigion swm syfrdanol o £2,615 tuag at achosion teilwng lleol.

Ychwanegodd Eifion, “Diolch Tîm Ceredigion am ddangos i'n cymunedau faint rydych chi'n meddwl amdanynt ac am wneud y Nadolig ychydig yn well i bawb.”

23/12/2020