Mewn cyfarfod Cabinet ar 17 Ebrill, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Safle Gwastraff Domestig Rhydeinon, ger Llanarth. Penderfynodd y Cabinet hefyd i ymestyn y contract ar gyfer y safle gwastraff domestig am gyfnod o 6 mis.

Mae'r contract presennol ar gyfer Safle Gwastraff Domestig Rhydeinon yn dirwyn i ben ar 31 Mai 2018. Bydd yr estyniad yn rhoi’r amser i’r Cyngor ystyried opsiynau i’r dyfodol ar gyfer y safle a bydd proses ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i hysbysu’r ystyriaethau yma. Mae Rhydeinon yn un o bedwar safle gwastraff domestig yn y sir; mae’r lleill yn Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon ger Aberystwyth; Cilmaenllwyd ger Aberteifi a safle arall yn Llambed.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, “Mae cyllidebau’r Cyngor o dan bwysau llym a pharhaus. Felly mae angen i ni edrych eto ar drefniadau rheoli gwastraff yn y sir i sicrhau bod y cyfleusterau a gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn addas ac yn fforddiadwy sy’n cynnwys ceisio cymryd camau effeithlonrwydd pan bod cyfleoedd yn codi. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhoi’r cyfle i bobl ddweud eu dweud, bydd hwn yn cael ei ystyried yn ofalus cyn i unrhyw benderfyniad cael ei wneud yn y dyfodol. Dw i’n hybu unrhyw berson sydd â barn ar y mater i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Mae’r penderfyniad Cabinet yn dilyn adolygiad o isadeiledd rheoli gwastraff, gweithred a nodwyd yn Strategaeth Rheoli Gwastraff y Cyngor ar gyfer 2014-18.

 

17/04/2018