Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, fel Awdurdodau Lleol eraill, gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd i sicrhau bod anghenion rhieni, lle bo hynny'n rhesymol ymarferol, yn cael eu clywed o ran darpariaeth gofal plant yn y sir.

Cyflwynwyd drafft Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu ar ddydd Mercher 2 Mawrth 2022 lle cytunwyd y byddai'r adroddiad drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn dod i ben ar 6 Mehefin 2022. 

Mae’r adroddiad yn adnabod bylchau ac yn cynnig awgrymiadau a fydd, pan yn ymarferol bosib, yn bodloni anghenion rhieni fel bod yr Awdurdod yn medru gwireddu’r ddyletswydd Gofal Plant yn ddigonol, fel y’i hamlinellir yn y Ddeddf Gofal Plant. Croesewir ymatebion i’r ymgynghoriad gan gyfranddalwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd â barn ar y mater.

Dywedodd Carys Davies, Rheolwraig Strategol Gofal Plant: "Mae'r adroddiad wedi nodi bod yna annigonolrwydd lleoedd gofal plant mewn rhannau o Geredigion. Fel Awdurdod Lleol byddwn yn anelu at weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael a’r materion a nodwyd. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei ddatblygu yn dilyn y Cyngor newydd i edrych ar fynd i'r afael âr bylchau.”

Dilynwch y linc ganlynol i weld yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ddrafft, a holiadur yr ymgynghoriad drwy’r wefan: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/plant-a-phobl-ifanc/gofal-plant/digonolrwydd-gofal-plant/

Cofiwch dweud eich dweud cyn 06 Mehefin 2022.

12/05/2022