Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio yng Ngheredigion ar y Strategaeth Toiledau lleol. Bydd y strategaeth yma yn rhoi’r cyfle i bobl ddweud eu dweud ar doiledau cyhoeddus yn y sir.

Bydd yr adborth o’r ymgynghoriad hwn yn cynorthwyo i ddatblygu strategaeth a fydd yn gwneud darpariaeth toiledau cyhoeddus addas ar draws y sir. Mae’n ofynnol o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i’r cyngor gyhoeddi Strategaeth Toiledau lleol.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans, “Mae mynediad i doiledau yn effeithio ar iechyd y cyhoedd. Mae diffyg cyfleusterau toiled digonol yn cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol person ac yn bwysig i rai grwpiau o fewn cymdeithas. Gall darpariaeth toiledau gwael gyfrannu at arwahanrwydd cymdeithasol ac anweithioldeb yn ogystal ag effeithio ar allu pobl i gynnal annibyniaeth ac urddas yn nes ymlaen mewn bywyd.”

“Gall toiledau hygyrch, glân yn y mannau cywir annog pobl i wneud ymarfer corff ac aros yn gorfforol weithgar.”

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cau ar 25 Chwefror 2019. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal trwy holiadur sydd ar gael ar-lein ar wefan y cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/ymgynghoriad-toiledau-cyhoeddus/.

Mae copi wedi'i argraffu o'r Holiadur Strategaeth Toiled ar gael trwy wneud cais trwy gysylltu â desg gwasanaeth y Gwasanaethau Eiddo ar 01970 633900.

21/12/2018