Mae Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar ac atgoffir aelwydydd cymwys i wneud cais am gymorth i’w helpu i dalu biliau tanwydd y gaeaf.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar estyniad i’r cynllun uchod a fydd yn dyblu’r taliad o £100.00 i £200.00. Mae hyn ar gael i ymgeiswyr newydd a bydd yn cael ei ddyrannu hefyd i'r rheiny sydd eisoes wedi derbyn taliad.

Nodwch, os ydych eisoes wedi derbyn taliad o £100.00, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Nid oes angen i chi gysylltu â’r Cyngor. Bydd y Cyngor yn gwneud y taliad ychwanegol yn awtomatig i chi, ac rydym yn anelu at wneud y taliad hwn cyn gynted â phosibl cyn diwedd mis Chwefror.

Hyd yma, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynorthwyo bron 2,000 o gartrefi gyda’r taliadau hyn, ac wedi rhoi dros £195,000 mewn taliadau. Felly os ydych yn wynebu biliau tanwydd uwch ac yn meddwl y gallech fod yn gymwys, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. Nodwch fod y cynllun bellach wedi cael ei ymestyn hyd at 28 Chwefror 2022.

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 i gael cymorth tuag at dalu eu biliau ar gyfer tanwydd a ddarperir gan y grid yn ystod y gaeaf ar gyfer eu prif breswylfa yng Nghymru.

Mae'r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd (ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):

  • Cymhorthdal Incwm , neu
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
  • Gredyd Cynhwysol, neu
  • Gredyd Treth Gwaith

Bydd y taliad ar gael i bob cartref cymwys p'un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd: “Byddwn yn annog pobl sy'n wynebu biliau tanwydd uwch i wirio a ydyn nhw’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gael cymorth amhrisiadwy gyda biliau tanwydd pan fo’i angen fwyaf.”

Gellir gwneud ceisiadau hyd at hanner nos ar 28 Chwefror 2022 ar ein gwefan: Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf.

 

03/02/2022