Ar 28 Mehefin, bydd Stuart Evans yn ymddeol o Amgueddfa Ceredigion ar ôl 43 mlynedd.

Ymunodd Stuart â’r amgueddfa fel cynorthwyydd yn 1976, pan roedd yr amgueddfa wedi’i lleoli ar Stryd yr Efail, ond daeth yn dechnegydd ac yn ddylunydd arddangosfeydd yn fuan iawn. Dechreuodd ei yrfa â’r amgueddfa dan gyfarwyddyd Dr Owen, y Curadur cyntaf, ac mae gan Stuart atgofion melys o deithio o amgylch Ceredigion gyda Dr Owen yn ei mini clubman, gan ddychwelyd weithiau gydag eitemau anferth ar do’r cerbyd.

Tyfodd yr amgueddfa’n rhy fawr i’r tŷ teras ar Stryd yr Efail, a bu Stuart â rhan allweddol wrth symud yr amgueddfa i’r Colisewm yn 1982. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyfarfu Stuart â’r Tywysog Charles pan ymwelodd â’r Colisewm ar ôl ei throsi’n amgueddfa.

Dywedodd Stuart Evans, “Mae’n yrfa sydd wedi bod yn llawn cyfleoedd amrywiol a chymaint o bobl ddiddorol. Ni fuaswn wedi gallu dyfeisio gwell swydd i mi. Pan roedd pobl yn gofyn i mi beth hoffwn ei wneud pan oeddwn yn iau, ni feddyliais y buaswn yn gweithio mewn theatr Edwardaidd, dafliad carreg i ffwrdd o draeth prydferth yng Nghanolbarth Cymru, yn gofalu am wrthrychau hanesyddol hynod ddiddorol. Mae deugain mlynedd wedi hedfan heibio.”

Bu sawl uchafbwynt yng ngyrfa Stuart, gan gynnwys curadu’r arddangosfeydd parhaol, diogelu nifer o’r arddangosion, gan gynnwys tollfyrddau harbwr Cei Newydd, dylunio cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer siop yr amgueddfa, a gweithio gyda grwpiau cymunedol er mwyn ehangu effaith yr amgueddfa.

Dywedodd Carrie Canham, y Curadur presennol, “Rydym ni gyd yn mynd i weld eisiau Stuart yn fawr iawn; bron ei fod yn rhan o’r casgliad am ei fod wedi bod yma cyhyd! Mae ganddo wybodaeth anhygoel am y gwrthrychau ac mae wedi cyfrannu llawer tuag at yr arddangosfeydd, gofalu am y gwrthrychau, addysg, allgymorth – yn wir, ni allaf feddwl am unrhyw agwedd ar yr amgueddfa nad yw ef wedi’i chefnogi gyda’i arbenigedd, ei sgiliau, a’i artistiaeth. Yn ogystal, mae ganddo’r straeon mwyaf doniol i’w hadrodd yn yr ystafell de!”

 

 

05/06/2019