Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd unrhyw un sy'n meddwl am fabwysiadu i Noson Wybodaeth rhwng 6.30yp ac 8yp ddydd Iau 17 Hydref yn yr Atom, 18 Stryd y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BN.
Bydd staff mabwysiadu a mabwysiadwr profiadol (Sue) i rannu gwybodaeth am fabwysiadu ac ateb cwestiynau.
Dywed Sue: "Nid ydym wedi difaru mabwysiadu Charlie am eiliad ers iddo ddod atom dros ddwy flynedd yn ôl. Roedd y broses yn iawn; mae'n eithaf hir ac yn drylwyr iawn - sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y teuluoedd iawn yn cael eu creu.
“Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dîm prysur a phroffesiynol, sydd â'r nod o'ch asesu a'ch hyfforddi i fod yn barod am bob her ym mywyd. Dylech fanteisio ar bob cyfle posibl i gael hyfforddiant, gan y byddwch ychydig yn brysurach pan fydd gennych blentyn!
“Hyd yn hyn, rydym wedi dod i'r casgliad mai'r heriau mwyaf i ni yw'r rheiny sy'n ymwneud â fod yn rhiant, nid y rheiny sy'n ymwneud â mabwysiadu. A fyddem yn ei wneud eto? Byddem, wrth gwrs! Nid wy'n poeni am rannu DNA, yr unig beth sy'n bwysig yw rhannu ein bywydau."
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.mabwysiaducgcymru.org.uk.
11/10/2019