Mae’r parthau diogel cyntaf i gerddwyr yn cael eu rhoi ar waith mewn pedair canol tref yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion am greu trefi diogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio’n araf yn y sir, a gan fod y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn bwysig, mae angen addasu’r trefi oherwydd rhesymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y frwydr yn erbyn lledaeniad y coronafeirws, a hoffai i’r llwyddiant hwn barhau er lles ei dinasyddion.

Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Chei Newydd fydd y trefi cyntaf lle bydd y parthau hyn yn cael eu gweithredu.

Bydd y gofod a fydd yn cael ei greu drwy gael gwared â thraffig yn ystod y dydd yn caniatáu i’r cyhoedd symud yn ddiogel o fewn y parthau a hefyd yn caniatáu i fasnachwyr/busnesau ddefnyddio mwy o’r ardal y tu allan o dan gytundeb â’r Cyngor.

I wneud hyn bydd rhai ffyrdd ar gau i draffig, bydd palmentydd yn cael eu clirio, gofynnir i ymwelwyr barcio i ffwrdd o ganol y trefi am ddim a bydd arwyddion yn cael eu cyflwyno i helpu ymwelwyr i gynnal pellteroedd diogel.

Bydd parthau diogel yn cael eu creu drwy gau ffyrdd a chael gwared â pharcio ar y stryd o 11am – 6pm bob dydd o ddydd Llun 13 Gorffennaf. Mae rhestr o strydoedd sy’n cau yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Cei newydd i’w gweld yma www.ceredigion.gov.uk/ParthauDiogel.

Mae’r Cyngor wedi gweithredu mor gyflym â phosib i roi’r trefniadau hyn ar waith a bydd y trefniadau cychwynnol hyn yn cael eu hadolygu’n barhaus. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â masnachwyr a perchnogion busnesau er mwyn sicrhau y gellir trefnu i dderbyn cyflenwadau. Fodd bynnag, cynghorir busnesau i wneud trefniadau i dderbyn cyflenwadau y tu allan i’r cyfnod cau, a dim ond pan na fydd hynny’n bosibl y dylid cysylltu â’r Cyngor i drefnu cymorth brys neu annisgwyl. Bydd yr un peth yn berthnasol i breswylwyr.

Dyma’r cynllun cyntaf yn rhan o’r mesurau ar gyfer trefi a fydd yn cael eu cyflwyno fesul tipyn. Cyflwynwyd y mesurau gan ddefnyddio pwerau brys i sicrhau bod trefi yn llefydd mwy diogel i ymweld â nhw er mwyn i’n cymunedau lleol ac ymwelwyr gerdded o gwmpas, siopa a mwynhau'r hyn y gall ein trefi gynnig. O ystyried y cynnydd tebygol yn nifer y bobl yn y sir yn ystod yr haf, dim ond os byddwn yn creu mwy o le i bobl yn hytrach na cheir y gellir gwneud hyn yn ddiogel.

Nid yw'r parthau diogel wedi'u cynllunio i alluogi pobl i yfed ar strydoedd ein trefi. Lle ceir Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, ni chaniateir yfed ar y strydoedd heblaw am mewn man dynodedig sydd â thrwydded gymeradwy.

Bydd y parthau diogel hyn yn cael eu hadolygu i sicrhau y gellir gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol mor gyflym â phosib. Yn ystod cyfnod yr argyfwng byddwn yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â busnesau, trigolion ac ymwelwyr i ystyried y ffordd orau ymlaen yn y tymor canolig i’r tymor hir.

Bydd y parthau diogel hyn yn cael eu cyflwyno yn Aberporth, Borth, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron yn yr wythnosau nesaf a bydd opsiynau yn cael eu archwilio ar gyfer Llandysul.

Bydd eithriadau i'r gwaharddiad ar gerbydau modur yn y parthau hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau ond dim ond ar gyfer gwaith diogelwch/mewn argyfwng. Mae meysydd parcio ar gael o amgylch y trefi a fydd ar gael i’w defnyddio am ddim. Bydd darpariaeth parcio ychwanegol i'r anabl (bathodyn glas) yn cael ei nodi ar y cynlluniau. Atgoffir preswylwyr i gyflwyno eu gwastraff domestig mewn cynhwysydd addas erbyn 08:00 ar y diwrnod casglu yn unig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: www.ceredigion.gov.uk/ailgylchu

Arhoswch yn lleol a chefnogwch yn lleol er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r parthau diogel ar gael ar wefan y Cyngor www.ceredigion.gov.uk/Coronafeirws  

10/07/2020