Gyda Chanolfan Hamdden Plascrug bellach yn ôl o dan gyfrifoldeb Cyngor Sir Ceredigion, mae yna lawer i edrych ymlaen ato wrth i'r gwaith datgomisiynu fynd rhagddo.

Defnyddiwyd pob rhan o’r adeilad pan oedd yn gweithredu fel Ysbyty Maes. Crëwyd wardiau ysbyty yn y cyrtiau sboncen a’r brif neuadd, a oedd yn cynnwys gosod systemau plymio, trydanol ac awyru newydd, ac adeiladwyd waliau dros dro a gosodwyd arwynebau hylendid. Addaswyd yr ystafelloedd newid yn y ganolfan hamdden a’r pwll nofio at ddefnydd staff meddygol, a thynnwyd cyfarpar y ganolfan chwaraeon oddi yno er mwyn gwneud lle ar gyfer y strwythurau dros dro hyn. Yn ychwanegol at y gwaith datgomisiynu, mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw yn cael eu gwneud hefyd gan nad oedd yn bosibl gwneud hynny tra oedd Canolfan Hamdden Plascrug yn cael ei defnyddio fel Ysbyty Maes.

Mae wedi dod i'r amlwg fod maint y gwaith sydd i'w wneud ar yr adeilad yn fwy na’r hyn a ddisgwylid i ddechrau. Rhaid i’r holl waith gael ei wneud, cyn iddo agor, er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r holl ofynion o ran iechyd a diogelwch a’r safonau a ddisgwylid gan drigolion y sir.

Prif flaenoriaeth y Cyngor yw ailagor Canolfan Hamdden Plascrug gyda gwasanaethau diogel ac o safon uchel i bawb eu mwynhau, a gwerthfawrogwn eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni weithio tuag at hynny.

Mae paratoadau ar waith i ailagor Canolfan Hamdden Aberaeron, Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan a Neuadd Chwaraeon Ysgol Penglais (at ddefnydd clybiau cymunedol yn unig) o’r wythnos sy’n dechrau 07 Mehefin 2021 ymlaen. Bydd yna oedi cyn agor Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan er mwyn gallu gwneud gwaith hanfodol a nodwyd yn rhan o wiriadau cynnal a chadw diweddar. Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn parhau i gael ei defnyddio fel canolfan frechu dorfol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.

Bydd oriau agor, amserlenni a manylion archebu ar gael ar wefan Ceredigion Actif a dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter am yr wybodaeth ddiweddaraf.

25/05/2021