Mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio sicrhau bod Ceredigion yn ddi-blastig.

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, derbyniodd Cabinet y Cyngor ddiweddariad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ceredigion Di-blastig a sefydlwyd ar ôl i’r Cyngor llawn gymeradwyo cynnig ar 22 Chwefror 2018.

Cymeradwyodd y Cyngor Llawn y cynnig ynghylch ymgyrchoedd di-blastig drwy’r Sir, gan gynnwys Aber-porth Di-blastig ac Aberystwyth Di-blastig er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn helpu i leihau nifer y plastig untro a ddefnyddir yn ein gwaith bob dydd.

Roedd y cynnig yn cynnwys nifer o ffactorau gan gynnwys: lleihau plastig untro o fewn cyfleusterau a swyddfeydd y Cyngor; annog busnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i ddefnyddio dewisiadau amgen cynaliadwy yn hytrach na phlastig untro; hyrwyddo dewisiadau amgen cynaliadwy yn hytrach na phlastig untro ym mhob digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor; cefnogi digwyddiadau glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch y problemau sy’n gysylltiedig â phlastig untro.

Ers 22 Chwefror 2018, mae’r Cyngor wedi cael gwared â 5 math o blastig untro a oedd yn cael eu defnyddio ar draws yr awdurdod lleol, wedi gweithredu prosiectau ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac wedi dechrau darparu cyfleusterau ail-lenwi poteli ar gais i ymwelwyr ein hadeiladau cyhoeddus.

Ym mis Ionawr 2020, bu cais y Gwasanaeth Ysgolion am arian gan Gronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol yn llwyddiannus, a bydd yr arian hwn yn caniatáu iddynt brynu peiriannau llaeth a fydd yn cael gwared â’r angen i ddarparu gwelltynnau a photeli llaeth plastig i 1,979 o ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae hyn gyfystyr â lleihad o 376,010 o boteli plastig bob blwyddyn ysgol.

Y Cynghorydd Alun Williams yw’r Aelod Eiriolwr dros Gynaliadwyedd. Dywedodd: “Mae’r rhain yn fentrau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i nifer y plastig untro sy’n mynd i mewn i’r ffrwd wastraff o weithgareddau’r Cyngor. Er ei bod yn bwysig bod pawb yn ceisio lleihau eu defnydd o blastig untro cymaint â phosib, mae’n enwedig o bwysig bod sefydliadau mawr megis cynghorau yn cymryd camau o’r fath oherwydd gallant gael effaith ehangach, a all yn ei dro arwain at ddiwydiannau yn newid i arferion mwy cynaliadwy. Mae Cyngor Ceredigion yn ceisio arwain y ffordd o ran dangos beth sy’n bosib o fewn sefydliad.”

Mae hyn yn cefnogi un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor, sef Hyrwyddo Cydnerthedd Cymunedol ac Amgylcheddol.

19/03/2020