Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a grwpiau cymunedau lleol yn sicrhau bod oedolion ar draws Ceredigion a allai fod yn teimlo’n unig, yn ynysig neu’n fregus o ganlyniad i COVID-19 yn derbyn pecynnau lles i'w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Erbyn i’r pecynnau lles gael eu dosbarthu, roedd y cyfnod clo wedi mynd rhagddo ers dros ddeufis, lle cyflwynwyd nifer o gyfyngiadau a oedd yn effeithio ar ein ffordd arferol o fyw. Mae'r pecynnau lles yn cefnogi gwaith Gwasanaeth Cadw mewn Cysylltiad Porth Cymorth Cynnar, a’r gobaith yw y byddant yn rhywfaint o gysur i’r trigolion sydd eu hangen.

Cafodd 800 o becynnau lles eu creu gan Borth Cymorth Cynnar, a bu gwasanaethau ar draws yr awdurdod lleol a sefydliadau partner yn ddigon caredig i roi eitemau. Derbyniodd grwpiau a sefydliadau lleol ar draws Ceredigion gyflenwad o becynnau lles sydd wedi cael eu dosbarthu i oedolion bregus yn eu cymunedau, o Dre'r Ddol i Dregaron i Aberteifi.

Hoffai Porth Cymorth Cynnar ddiolch i’r sefydliadau a’r gwasanaethau canlynol a gyfrannodd; Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, Cered - Menter Iaith, Amgueddfa Ceredigion, Theatr Felinfach, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan Cyngor ar Bopeth Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Dysgu Bro Ceredigion, Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) Ceredigion, Cambrian News, Porth y Gymuned a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cynigiwyd cymorth hefyd gan Lyfrgelloedd Ceredigion a Thîm Cyfleusterau Ceredigion i gefnogi’r gwaith o ddosbarthu’r pecynnau lles i gymunedau lleol.

Mae grwpiau cymorth cymunedol, gwirfoddolwyr a chynghorwyr lleol i gyd wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y pecynnau lles yn cael eu dosbarthu i drigolion mewn cymunedau ledled Ceredigion. Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r holl wirfoddolwyr am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod cloi.

Roedd y pecynnau lles yn cynnwys cylchlythyrau, taflenni, manylion cyswllt pwysig, llythyrau gwybodaeth, cwisiau, posau, ymarferion hawdd, adnoddau iechyd a lles, deunyddiau crefft, CD cerddoriaeth, ffotograffau hel atgofion, papurau newydd, hufen dwylo, pêl straen, adnoddau celf i ymlacio a phensiliau lliw, i gyd mewn bag cotwm.

Dywedodd un o drigolion Aberteifi a dderbyniodd pecyn lles: “Diolch am ddosbarthu’r pecynnau lles! Wnes i fwynhau gweithgareddau Amgueddfa Ceredigion a’r eli dwylo Dove. Da iawn”

I ddarganfod pa grwpiau cymorth sy'n gweithredu yn eich ardal chi, ewch i'r adran ynghylch adnoddau ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/adnoddau/

 

 

03/07/2020