Nawr bod y wlad ar Lefel Rhybudd 0 a bod cyfyngiadau Covid wedi llacio’n sylweddol ers yr haf diwethaf, dim ond nawr y mae nifer o drigolion Ceredigion yn profi effaith ariannol y pandemig yn llawn.

Mae pryderon ynglŷn â chael gwared ar y taliad ychwanegol o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol ac ailddechrau’r llawr isafswm incwm ar gyfer pobl hunangyflogedig sydd ar Gredyd Cynhwysol, ac mae’r ddau beth hynny i fod i ddigwydd ym mis Medi. Mae cymorth ffyrlo wedi dechrau lleihau’n raddol ac mae gan gyflogwyr benderfyniadau anodd i’w gwneud ynglŷn â’u lefelau staffio.

Mae cost bwyd a thanwydd wedi codi’n sydyn a disgwylir i'r Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan o 6 mis gael ei adolygu ym mis Medi, a allai leihau diogelwch tenantiaid i’r lefelau yr oeddent cyn y pandemig. Bydd unrhyw un sydd angen symud ymlaen hefyd yn teimlo effaith y cynnydd diweddar yn y galw am dai wrth i ddewis, argaeledd a fforddiadwyedd leihau. Mae llawer o bobl yn gweld eu biliau trydan a nwy yn codi, ac o fis Hydref bydd cynnydd yn lefel y cap ar brisiau ynni, sy'n effeithio ar hyd yn oed mwy o aelwydydd. Gall siarad â thîm ynni Cyngor ar Bopeth helpu i sicrhau bod eich biliau'n aros mor isel â phosibl a'ch bod yn hawlio unrhyw gymorth ychwanegol y mae gennych hawl iddo.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw cadeirydd Is-grŵp Mynd i’r Afael â Chaledi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Dywedodd: “Mae llawer o gefnogaeth a chymorth ar gael, ac mae'n bwysig bod pobl yn ystyried hyn fel eu hawl absoliwt. Rydym wedi dwyn ynghyd swyddogion o'n gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, gwasanaeth Opsiynau Tai, gwasanaeth y Wasg a Chyfathrebu a Phrif Swyddogion Gweithredol CAVO a Chyngor ar Bopeth Ceredigion i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y rheini sy'n ei chael hi’n anodd yn gallu cael gafael ar y budd-daliadau a'r cyngor y mae ganddynt hawl i'w cael. Mae llawer o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar y dudalen ynglŷn â budd-daliadau ar wefan Cyngor Ceredigion, felly cymerwch olwg. Mae Cyngor ar Bopeth yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau eraill i gyrraedd pobl a gall tenantiaid tai cymdeithasol gysylltu â’u swyddog cefnogi tenantiaeth am gymorth gydag arian a materion eraill."

Serretta Bebb yw Prif Swyddog Gweithredol Swyddfa Cyngor ar Bopeth Ceredigion. Dywedodd: “Mae pobl yn tueddu i ddod at Gyngor ar Bopeth pan fyddant mewn argyfwng. Yn ddelfrydol, hoffem i bobl gysylltu pan fydd pethau’n dechrau mynd yn galed arnynt, oherwydd po gynharaf y bydd pobl yn gofyn am gymorth, po fwyaf o opsiynau sydd ar gael i atal pethau rhag gwaethygu. Mae ein cynghorwyr yn brofiadol iawn a gallant helpu gyda hawliadau budd-daliadau, dyledion, materion tai, iechyd a diogelwch yn y gwaith, tai a llawer mwy. Mae'r holl faterion hyn yn hynod o straenus ac yn effeithio ar iechyd a lles pobl. Mae Cyngor ar Bopeth Ceredigion wedi parhau i helpu miloedd o gleientiaid drwy gydol y pandemig dros y ffôn, drwy e-bost, ac wyneb yn wyneb drwy fideo, felly cysylltwch â ni. Gallwn hefyd eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth, er enghraifft, gall tenantiaid tai cymdeithasol hefyd gysylltu â’u Landlordiaid am gymorth gydag arian a materion eraill."

Mae’r Cyngor yn annog trigolion sy’n wynebau’r heriau hyn i beidio â dioddef yn dawel a chael yr help sydd ei angen arnynt. Mae llawer o wybodaeth ar gael i drigolion ar y dudalen ynglŷn â budd-daliadau ar wefan y Cyngor.
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/budd-daliadau/

Gellir cysylltu â Swyddfa Cyngor ar Bopeth Ceredigion drwy ffonio 01239 621974 neu anfon e-bost at enquiries@cabceredigion.org.uk.

20/08/2021