Mae canfas blynyddol 2020 yn ofynnol yn ôl y gyfraith a bydd yn mynd rhagddo er gwaethaf pandemig y coronafeirws.

Mae Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion yn parhau i weithio, ond bydd staff yn gweithio mewn ffordd wahanol oherwydd y coronafeirws.

Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Cofrestru Etholiadol: “Mae'r canfas eleni, y mae’n rhaid i ni ei gynnal yn ôl y gyfraith, yn digwydd mewn sefyllfa heriol o ran iechyd y cyhoedd. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn ystyried canllawiau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol.”

Os ydym ni wedi anfon llythyr atoch chi sy’n gofyn i chi ymateb neu lenwi ffurflen, gallwch ein helpu ni drwy ymateb yn gyflym ac, os yw’n bosib, dylech wneud hyn ar-lein yn lle anfon y ffurflen yn ôl atom drwy’r post. Bydd hyn yn arbed adnoddau’r Cyngor ac yn lleihau nifer y llythyron y mae’n rhaid i staff y Cyngor a’r Post Brenhinol eu trin a’u trafod.”

Mae’r ddolen ar gyfer ymateb ar dudalen gyntaf y llythyr maint A4 y byddwch yn ei dderbyn, ynghyd â rhan 1 a rhan 2 y cod diogelwch.

Gall trigolion sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032.

07/08/2020