Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb Genedlaethol o 12 – 19 Hydref eleni. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn amlygu'r ymgyrch drwy atgoffa trigolion o'r hyn sy'n drosedd casineb a chyfeirio pobl at y cymorth sydd ei angen arnynt; boed eu bod yn ddioddefwr neu'n dyst i ddigwyddiad trosedd casineb.

Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr yr Aelodau dros Gydraddoldebau. Dywedodd: “Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o drosedd casineb yng Ngheredigion. Dylai pawb fod yn barchus o nodweddion a chredoau unigol. Mae'r wythnos genedlaethol hon o godi ymwybyddiaeth yn atgof pwysig i bob un ohonom fod angen i ni fyw mewn harmoni â'n gilydd er mwyn gwneud ein cymunedau yn lleoedd diogel a llewyrchus i'n trigolion fyw ynddynt heb ofn.”

Gall troseddau casineb fod yn ymosodiadau corfforol neu eiriol, bygythiadau neu sarhad sy'n cael eu hysgogi gan oedran, anabledd, ethnigrwydd, cred grefyddol neu ddiffyg cred, rhyw neu hunaniaeth rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y dioddefwr.

Gall troseddau casineb fod yn unrhyw gamau troseddol yr ystyrir gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall eu bod wedi’u hysgogi gan ragfarn ac atgasedd.

Kay Howells yw Cydlynydd Cydlyniad Cymunedol Canolbarth a De orllewin Cymru. Dywedodd: “Mae troseddau casineb yn aml yn mynd heb eu cofnodi, gan adael troseddwyr yn rhydd i gyflawni troseddau pellach. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei hadnabod wedi dioddef trosedd casineb, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei adrodd. Drwy adrodd am y troseddau hyn gellir cofnodi darlun o nifer, math ac ystod y digwyddiadau sy'n digwydd yng Ngheredigion, gan alluogi adnoddau i gael eu targedu er mwyn delio â hwy.”

Os ydych mewn perygl uniongyrchol ffoniwch yr heddlu drwy ddeialu 999 (heb fod yn achosion brys 101).

Gallwch wneud adroddiad ar-lein gan ddefnyddio gwefan cymorth i ddioddefwyr, http://www.reporthate.victimsupport.org.uk/. Gellir gwneud hyn yn ddienw hefyd os yw hynny'n well i chi.

Fel arall, gallwch ffonio cymorth i ddioddefwyr 24 awr y dydd yn uniongyrchol ar 03003 031 982. Os hoffech gael cymorth, gallant drefnu hyn ar yr un pryd â llunio’r adroddiad.

Ymwelwch â’r tudalen y cyngor am Drosedd Casineb am fwy o wybodaeth: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisïau/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/trosedd-casineb/

09/10/2019