Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn digwydd eleni rhwng 22 a 27 Mehefin.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn dangos ei gefnogaeth drwy hedfan baner y Lluoedd Arfog y tu allan i swyddfeydd y Cyngor. Yn ystod yr wythnos rhoddir pwyslais ar wahanol agweddau ar y Lluoedd Arfog ar dudalennau’r Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i drigolion ddysgu rhagor am gymuned y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar ran Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Ar yr adeg hynod hon mae’n codi calon i weld pobl ifanc, gwirfoddolwyr a milwyr wrth gefn yn helpu pobl eraill yn ein sir. Rydym oll wedi gweld y gwasanaethau mewn lifrai yn helpu ein gwasanaethau ‘golau glas’ ar y teledu dros yr 13 wythnos diwethaf. Hoffwn dalu fy nheyrnged i unrhyw aelod o’r gwasanaethau sy’n byw yn ein sir neu’n hanu ohoni ac sydd wedi’i anfon i helpu yn ystod y pandemig hwn. Hoffwn dynnu sylw penodol at griw o’r 3ydd Cymry Brenhinol o Aberystwyth a anfonwyd ar ddechrau’r cyfnod clo i helpu i ddosbarthu offer diogelu PPE, yr oedd galw mawr amdano. Wrth i’r wythnosau fynd rhagddynt gofynnwyd iddynt ddadheintio ambiwlansau ac wedyn bu rhai o’r criw yn gyrru ambiwlans. Daeth y milwyr ifanc hyn i’r alwad ar adeg o angen, gyda rhai ohonynt yn rhoi eu hastudiaethau prifysgol o’r neilltu er mwyn helpu. Maen nhw’n glod i’w Catrawd, i’r sir ac i’w teuluoedd, ac yn fwy na neb i’w hunain.

“Felly yn ystod y cyfnod hynod hwn ac fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar ran Ceredigion, gofynnaf ichi gymryd ennyd i feddwl am y gwaith da y mae ein lluoedd mewn lifrai yn ei wneud ar ran y gymdeithas sifil. Diolch ichi am ddarllen y deyrnged fach ond diffuant hon i’r gwaith maen nhw’n ei wneud drosom.”

Aeth y Cynghorydd Hinge yn ei flaen: “Mae Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, Hayley Edwards wedi creu cynllun i godi ymwybyddiaeth o gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys tynnu sylw at waith Fforwm Cymunedol Penparcau ddydd Iau, 25 Mehefin, sef diwrnod y cyn-filwyr.”

Yn ystod yr wythnos bydd amryw o negeseuon yn cael eu postio ar dudalennau Facebook a Twitter y Cyngor, gan gynnwys neges fideo gan y Cyrnol Martin Green TD DL (Dirprwy-lefftenant, Medal Tiriogaethol), milwr wrth gefn sy’n gwasanaethu fel Swyddog Cyswllt Milwrol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystod cyfnod y Coronafeirws. Hefyd bydd darn ysgrifenedig gan Hayley Edwards yn sôn am ei rôl gyda’r milwyr wrth gefn.

Dywedodd Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro: “Rwy’n talu teyrnged i waith y sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio ar y cyd â’r Cyngor Sir er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol i gyn-filwyr a chymuned y Lluoedd Arfog, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Mae gwaith Hwb Cyn-filwyr Penparcau wedi bod yn achubiaeth i gyn-filwyr hŷn sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol ac sydd wedi methu â gadael eu cartrefi. Mae gwirfoddolwyr o gymuned y Lluoedd Arfog wedi dod ynghyd i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gyn-filwyr hŷn. Mae llawer o elusennau cymunedol eraill y Lluoedd Arfog megis SSAFA, Change Step, Age Cymru Ceredigion a'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymuned y Lluoedd Arfog yn ystod pandemig COVID-19. Mae wedi bod yn esiampl wych o waith tîm ar yr adeg anodd hon.”

22/06/2020