Bydd Wythnos Genedlaethol Diogelu, a chynhelir rhwng 12 a 16 Tachwedd yn ffocysu eleni ar godi ymwybyddiaeth o’r risgiau o gam-fanteisio.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion, yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau o fewn y Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn darparu cyfleoedd i blant ag oedolion i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar faterion ynglŷn â Cham-fanteisio.

Gall Cam-fanteisio gymryd nifer o ffyrdd; caethwasiaeth fodern, sgamiau ariannol, seibr fwlio a cham-fanteisio'n rhywiol. Mae’n gallu effeithio unrhyw un; yr hen a’r ifanc.

Dyma grynodeb o’r digwyddiadau a fydd yn cael ei chynnal cyn ac yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Diogelu:

• Gan fod y cyfnod yn arwain at Wythnos Genedlaethol Diogelu yn cyd-fynd ag wythnos ‘Gadewch i ni Drafod Arian’, bydd Dechrau’n Deg a chanolfannau teuluoedd yn cynnal digwyddiadau o’r enw Ymddiried Arian - Siarad, Dysgu, Gwneud’ i godi ymwybyddiaeth rhieni o’r pwysigrwydd o siarad â phlant am arian. Cysylltwch â Dechrau’n Deg ar 01239 621687 i archebu lle ar un o’r sesiynau. Cynhelir y sesiynau yn:
- Neuadd yr Eglwys, Llanarth – 5 Tachwedd am 12yp-2yp
- Fforwm Penparcau, Yr Hwb - 7 Tachwedd am 1:30yp-3:30yp
- Canolfan Deulu Llandysul – 8 Tachwedd am 1yp-3yp
- Neuadd y Pentref, Aberporth – 14 Tachwedd am 1yp-3yp
- Canolfan Enfys Teifi, Aberteifi – 30 Tachwedd am 1yp-3yp

• Bydd Coleg Ceredigion yn darparu tiwtorial ar draws y ddau gampws i fyfyrwyr ar y thema o Gam-fanteisio.

• Ar ddydd Mawrth, 13 Tachwedd am 11am, bydd yr Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon yn siarad am y peryglon o fenthyciwr arian didrwydded a sut i’w adnabod. Bydd Cyngor am Bopeth (CAB) yn darparu sesiynau 1:1 yng Nghanolfan Teulu Llandysul rhwng 9:30yb a 12:30yp ac yn Neuadd yr Eglwys Llanarth rhwng 10:30yb a 1:30yp. Mae rhaid archebu lle o flaen llaw ar gyfer y sesiynau yma. Cysylltwch â Dechrau’n Deg i archebu sesiwn.

• Ar ddydd Mercher am 1:30yp, bydd yr Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon yn siarad yng Nghanolfan Teulu Penparcau am y peryglon o fenthyciwr arian didrwydded a sut i’w adnabod.

• Ar ddydd Iau, 15 Tachwedd, bydd Sêr Saff, Bwrdd Diogelu Ieuenctid Ceredigion yn hybu sut y gall bobl ifanc fod yn ddiogel ar-lein trwy gynnal digwyddiad ‘Safe’ yn Hwb Cwrt Mawr, Prifysgol Aberystwyth rhwng 3:30yp a 6yp. Cynhelir y digwyddiad ar y cyd gydag Ehangu Cyfranogiad.

• Ar ddydd Iau 15 Tachwedd am 1yp, bydd yr Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon yn siarad yng Nghanolfan Teulu Penparcau am y peryglon o fenthyciwr arian didrwydded a sut i’w adnabod. Bydd CAB yn darparu sesiynau 1:1 am 1yp-4yp. Cysylltwch â Dechrau’n Deg i archebu sesiwn.

Amlygodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth o’r mater yma, “Mae cam-fanteisio'n rhywbeth yr ydym i gyd yn gallu dioddef gan fod modd ei wneud mewn ffyrdd anweledig pan ydym fwyaf bregus. Mae'r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn ymgyrch bwysig sy'n codi ymwybyddiaeth o'r arwyddion arwyddocaol am wahanol fathau o gam-fanteisio megis cam-fanteisio plant yn rhywiol, caethwasiaeth fodern, sgamiau ariannol a cham-fanteisio’n droseddol. Os oes gennych bryderon ynghylch diogelu oedolyn neu blentyn rydych chi'n nabod, mae'n hanfodol eich bod yn adrodd y pryderon hyn i'r Heddlu a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Gallwch chi helpu i atal y cylch o gam-fanteisio.”

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Diogelu, cysylltwch â Nicky Sandford ar 01545 570881. Os oes gennych bryderon bod rhywun yn cael eu cam-fanteisio, cysylltwch â’r heddlu ar 101 neu Wasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ar 01545 574 000.

Mae’r Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn fwrdd rhanbarthol aml-asiantaeth sy’n gweithio ar y cyd i helpu plant, pobl ifanc ag oedolion bregus yn ddiogel yn ganolbarth a gorllewin Cymru. Ymwelwch â’u gwefan ar www.cysur.cymru.

02/11/2018