Eleni, bydd Wythnos Genedlaethol Diogelu yng Nghymru yn cael ei chynnal rhwng 11 a 15 Tachwedd 2019.

Fel rhan o Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae’r Cyngor yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddarparu cefnogaeth ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef niwed.

Mae’r themâu allweddol rhanbarthol yn cynnwys:
• cyd-gysgu mewn amgylchiadau peryglus
• hunan-esgeuluso a gôr gasglu

Cynhelir y Gynhadledd Ranbarthol Flynyddol ar Ddiogelu yng Ngholeg Sir Benfro ar 14 Tachwedd, a bydd yn tynnu sylw at gyflawniadau allweddol ar draws y rhanbarth o ran gweithredu Arwyddion Diogelwch wrth weithio gyda theuluoedd ac unigolion. Bydd Cyra Shimell o Porth y Gymuned yn cyflwyno ar Arwyddion Llesiant a sut y caiff ei ddefnyddio i gefnogi a datblygu gwydnwch cymunedol ac unigol. Bydd Helen Jones ac Oliver Roberts yn cyflwyno ar sut mae defnyddio Arwyddion Diogelwch yn cryfhau’r gefnogaeth a roddir i blant sy’n derbyn gofal.

Mae Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS) yn brin iawn yng Nghymru a Lloegr, ond mae dros 200 o fabanod y flwyddyn dal yn marw. Mae rhai rhieni yn dewis cyd-gysgu gyda'u babanod ac mewn rhai sefyllfaoedd os dilynir negeseuon diogelwch allweddol, gall hyn fod yn llwyddiannus. Mewn grwpiau risg uchel fel rhieni sy'n ysmygu, yfed alcohol a/neu ddefnyddio cyffuriau neu os ganwyd y baban yn gynamserol, gall hyn gynyddu'r risg o farwolaeth gan 90%. Mae rhoi babanod i gysgu mewn cot neu fasged Moses ar eu pen eu hunain ond o fewn yr un ystafell â rhiant yn arfer gorau.

Mae hunan-esgeuluso yn cyfeirio at esgeuluso hylendid personol ac amgylchedd a gall weithiau fod yn gysylltiedig â gôr-gasglu. Gall gôr gasglu ddechrau ym mlynyddoedd cynnar yr arddegau a gwyddys eu bod yn effeithio ar 2% - 5% o'r boblogaeth. Gall gôr gasglu achosi problemau iechyd a diogelwch yn eich cartref gan fod y risg o dân yn cynyddu.

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a chwiliwch am y ‘Canllaw Ymarferol Hunangymorth Gôr gasglu’. Os ydych yn poeni cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar 0800 169 1234 i gael archwiliad diogelwch yn eich cartref.

Bydd Gweithdrefnau newydd Ddiogelu Cymru yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos a bydd rhaglen hyfforddiant cynhwysfawr yn dilyn ar gyfer staff dros y misoedd nesaf. Disgwylir i’r gweithdrefnau fod yn weithredol ym mis Ebrill 2020.

Yn ogystal, bydd Heddlu Dyfed Powys yn dilyn rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau i ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o themâu megis secstio, seiber-droseddu a chamfanteisio.

Os hoffech wybodaeth bellach, ewch i’r wefan: www.cysur.cymru. Os ydych yn poeni am rywun a allai fod mewn perygl o ddioddef niwed, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Porth Gofal ar 01545 574000.

07/11/2019