Ar Hydref 26, cynhaliwyd cyfarfod yn Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron i groesawu aelodau newydd i Gyngor Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion; tair blynedd ers iddo gael ei sefydlu.

Mae aelodau’r Cyngor Ieuenctid yn cynnwys pobl ifanc o bob ysgol uwchradd yn y sir, yn ogystal â chynrychiolwyr o fforymau pobl ifanc lleol gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc, Coleg Ceredigion a Ceredigion Actif.

Croesawodd Gwion Bowen, Swyddog Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yr aelodau a siaradodd am rôl y Cyngor Ieuenctid a rôl gefnogol y Cyngor.

Hefyd, yn ystod y cyfarfod, cafodd brosiect newydd ‘Schools In-Reach’ Hywel Dda ei gyflwyno, a gweithdy ar Strategaeth Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc newydd Ceredigion.

Dywedodd Thomas Evans, aelod o Fforwm Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ac aelod o’r Cyngor Ieuenctid eleni, “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid eleni, ac am y cyfle i gynrychioli llais pobl ifanc ar draws Ceredigion. Credaf fod hi’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i rannu eu barn a’u syniadau gyda’r Cyngor Sir.”

Bydd y cyfarfod nesaf yn rhoi cyfle i’r Cyngor Ieuenctid ethol Aelod Seneddol Ifanc newydd ar gyfer 2019 ac Is-gadeirydd newydd, a fydd yn cyd-weithio gyda Chadeirydd presennol y Cyngor, sef Beca Williams, disgybl o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’r Cyngor Ieuenctid yn gyfle i bobl ifanc rannu eu pryderon, rhannu eu barn, trafod prosiectau cyfoes, gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu harwain gan Gyngor Sir Ceredigion a rhoi adborth arnynt. Mae ganddyn nhw syniadau gwych a gallwn ddysgu llawer wrthynt!”

Mae’r Cyngor Ieuenctid yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn yn y Siambr ym Mhenmorfa, Aberaeron. Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar Ddydd Gwener 02 Chwefror 2019.

22/11/2018