Mae’r cwmni adeiladu WRW wedi cael ei benodi yn gontractwr ar gyfer cynllun Cylch Caron. Daw'r newyddion wedi i Gylch Caron gael arian gan Lywodraeth Cymru i gynllunio'r cynllun. Roedd y cwmni o Lanelli yn llwyddiannus ar ôl proses dendro.

Mae arian o'r Gronfa Gofal Integredig wedi galluogi partneriaid Cylch Caron i roi cyfarwyddid i WRW i lunio dyluniad manwl o'r cynllun.

Mae cynllun trawiadol Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Tai Canolbarth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu adeilad newydd sbon wedi’i gynllunio i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ynghyd â thai arbenigol i bobl sydd ag anghenion gofal yn Nhregaron.

Mae'r Cynghorydd Catherine Hughes yn aelod o Gabinet y cyngor a hi yw Cadeirydd Bwrdd rhanddeiliaid Cylch Caron. Dywedodd: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous o ran adeiladu Canolfan Adnoddau Integredig y mae ei hangen yn fawr, a fydd yn cymryd lle Ysbyty Cymuned Tregaron, Canolfan Adnoddau Bryntirion a’r feddygfa'r teulu.

“Mae Cylch Caron yn mynd i ddiwallu gwir angen yn Nhregaron a'r gymuned gyfagos. Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n gysylltiedig hyd yma am eu gwaith caled a'u dyfalbarhad.”

Dywedodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: “Rwy'n falch o allu cyhoeddi'r cam pwysig hwn yn natblygiad canolfan newydd Cylch Caron yn Nhregaron, a fydd yn dod â gwasanaethau pwysig o dan yr un to, yn agosach at y bobl sydd eu hangen.

“Drwy weithio gyda'n gilydd a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i fyw bywydau egnïol ac annibynnol.

“Mae Cylch Caron yn enghraifft ardderchog o sut y gall rhaglen gyfalaf Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru sicrhau newid drwy roi atal, ansawdd a thryloywder wrth wraidd ein gwasanaethau iechyd, gofal a thai.

"Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau a fydd yn gwneud y gorau o'u lefel o annibyniaeth ac yn eu helpu i aros yn eu cartref eu hunain neu ddychwelyd iddo cyn gynted â phosibl.”

Dywedodd Jon Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr WRW Construction: “Rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu cynllun gofal iechyd o'r fath ar gyfer y bobl leol Tregaron a'r cyffiniau.

“Bydd y prosiect yn cynnwys meddygfa meddyg teulu, fferyllfa, chwe uned iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg, 34 o fflatiau, cyfleusterau ar gyfer gofal tymor hir, gofal dydd a chlinigau cleifion allanol.

"Ar ôl ei gwblhau, bydd Cylch Caron yn Ganolfan Adnoddau Integredig o'r radd flaenaf a bydd yn ychwanegiad gwych i Geredigion.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant drwy gydol y prosiect."

Gweledigaeth Cylch Caron yw adeiladu ar y gwydnwch a’r ymrwymiad presennol i ofalu am bobl yng nghymuned Cylch Caron. Drwy hyn, bydd y bartneriaeth yn creu model gwledig, arloesol o ofal yn y gymuned i ddiwallu anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal sy’n addas ar gyfer heddiw ac sy’n gynaliadwy ar gyfer yfory.

31/10/2019