Bydd unigolyn dynodedig nawr yn gallu ymweld ag anwyliaid yng Nghartrefi Gofal yr Awdurdod Lleol o ddydd Llun, 29 Mawrth 2021 ymlaen.
Cynhelir pob ymweliad cychwynnol mewn cyfleuster ymweld diogel, a bydd yn ofynnol i bob ymwelydd lenwi holiadur iechyd cyn pob ymweliad.
Bydd pob ymwelydd dynodedig yn gallu trefnu un ymweliad 30 munud o hyd yr wythnos. Ni chaniateir unrhyw blant o dan 18 oed o dan y trefniadau presennol.
Ni fydd unigolion yn gallu trefnu unrhyw ymweliadau'n uniongyrchol â'r Cartrefi Gofal, felly cysylltwch â Clic yn unig ar 01545 570 881 i wneud y trefniadau hyn. Dim ond ar gyfer yr ymwelydd dynodedig y caniateir ymweliadau.
Dull araf a graddol
Rydym yn parhau i fod mewn cyfnod ansicr iawn, ac felly mae angen i ni barhau â chynllunio cadarn a dull graddol er mwyn atal unrhyw frigiadau pellach yn ein Cartrefi Gofal.
Byddwn yn adolygu'r trefniadau ymweld yn unol â'r llwybr ymweld cyn belled â bod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn parhau i ostwng a bod y staff a'r preswylwyr wedi derbyn ail ddos y brechlyn.
Rydym yn dilyn dull araf a graddol o ail-gyflwyno ymweliadau â'n Cartrefi Gofal er mwyn sicrhau diogelwch y preswylwyr a'n staff.
Byddwch yn ymwybodol, efallai y bydd gofyn i ni atal ymwelwyr mewn unrhyw gartref ar unrhyw adeg. Bydd y penderfyniad i atal unrhyw ymweliadau yn deillio o bryderon sy'n ymwneud â COVID-19 neu unrhyw faterion eraill a allai effeithio ar gynnal ymweliadau.
Mae diogelu pobl fregus yn y sir yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion. Diolchwn i bawb am eu cefnogaeth barhaus drwy ddilyn y rheolau i gadw’n hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau’n ddiogel yn y cyfnod digynsail hwn.
Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
29/03/2021