Rydym ni fel Tîm Cyfathrebu yn delio â'r holl faterion sy'n ymwneud â chyfathrebu i'r Cyngor Sir Ceredigion. Mae staff yn y swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyfryngau

Rydym yn trin â phob ymholiad i'r wasg ar ran y Cyngor, ac rydym yn gofyn yn garedig na wnewch chi gysylltu â swyddogion yn uniongyrchol. Sylwer, nid ydym yn trin ag ymholiadau wrth aelodau'r cyhoedd.

Er mwyn cysylltu â ni yn gyflym ac yn hawdd, gan sicrhau ein bod yn delio gyda’ch ymholiad yn gywir, gofynnwn i chi ddanfon e-bost at swyddfarwasg@ceredigion.gov.uk gyda'ch ymholiad a byddwn ni mewn cysylltiad.

Rydym yn gweithio tuag at ymateb o fewn 48 awr yn ystod oriau gwaith, ond os gwelwch yn dda byddwch yn amyneddgar os yw'n mynd y tu hwnt i'r amser hwn. Mae croeso i chi ddilyn lan ar ymholiad yn dilyn yr amser yma.

Cais ffilmio

Mae angen gwneud cais ffilmio ar briffordd neu ar yr arfordir a chefn gwlad Ceredigion trwy lenwi’r ffurflen sydd ar y dudalen yma. Mae'n rhaid cysylltu mewn da bryd ar gyfer unrhyw geisiadau ffilmio yng Ngheredigion.

Cyn rhoi caniatâd, bydd angen i’r gwasanaethau priodol fod yn fodlon bod gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, eich bod wedi ymgymryd ag unrhyw asesiadau risg perthnasol, ac unrhyw beth arall i gwrdd a'r gofynion.

Cadwch mewn cysylltiad