Cynhaliwyd trydydd Gweithdy Aelodau i drafod hybu economi ceredigion ar ddydd Gwener, 14 Rhagfyr 2018.

Gyda chyflwyniad a chefndir Tyfu Canolbarth Cymru gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans, aeth Gweithdy Aelodau Dyfodol Economaidd Ceredigion ymlaen i drafod gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau o’r sector cyhoeddus a phreifat.

Roedd pedwar sefydliad gwahanol ac amrywiol yn y Gweithdy i sôn am gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol ac amlinellu cynlluniau ar gyfer twf yn y Sir.

Meddai'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Rydym wastad yn falch i glywed gan amrywiol fusnesau o fewn y sir neu rhai o’r tu fas yr hoffai ddatblygu yma. Rydym ni’n lwcus bod datblygiadau ar y gweill ar gyfer y dyfodol. Edrychwn ymlaen i ddatblygu’r berthynas gyda busnesau o’r sector cyhoeddus a phreifat er budd datblygu’r economi yma yng Ngheredigion.”

Un o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor yw ‘Hybu’r Economi’. Mae hyn yn golygu gweithio i dyfu’r economi ac ymateb i’r cyfleoedd a ddaw o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Ceredigion ar daith gyda Partneriaid Tyfu Canolbarth Cymru. Bu’r Gweithdy hwn yn dangos y math o brosiectau a chynlluniau mawr a allai Ceredigion a Chanolbarth Cymru elwa ohonynt.

17/12/2018