Yn dilyn eu llwyddiant yn Rhagbrofion y Cystadleuaethau Gwallt a Harddwch yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai, fe gynrychiolodd disgyblion a phrentisiaid trin gwallt Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) y Sir yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanfair-ym-muallt ar 1 Mehefin. Unwaith eto, fe ddangosodd trinwyr gwallt HCT dalent rhagorol gyda’u dyluniadau penigamp.

Fe ddaeth Eleri Roberts, disgybl o Ysgol Penglais sy’n astudio Trin Gwallt yn HCT yn bedwerydd yn y gystadleuaeth Lefel 1 dan-19. Yn y gystadleuaeth Lefel 2 dan-19, fe gipiodd Bayley Harries, prentis trin gwallt y safle cyntaf ac yn y gystadleuaeth Lefel 3 dan-25, fe ddaeth prentisiaid trin gwallt Jess Dancy a Briony Hancock yn gyntaf ag ail yn ôl eu trefn. O ganlyniad i gipio’r gwobrau uchod, fe dderbyniodd dysgwyr a staff HCT lythyron personol o longyfarchiadau gan AC Ceredigion, Elin Jones a Ben Lake AS.

Rhannwyd y llongyfarch i’r dysgwyr gan Nerys Morgan, Is-Reolwraig HCT, ar eu gwaith caled a’u canmol am eu cyflawniadau campus yn Eisteddfod yr Urdd. Dywedodd, “Mae’r dysgwyr a chynghorwyr hyfforddi wedi gweithio yn hynod o galed ar eu dyluniadau dros y misoedd diwethaf, ac mae’n wir bleser i weld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod. Rydym yn falch iawn o ddysgwyr HCT ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y maes trin gwallt yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’r llwyddiant campus yma yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled y dysgwyr yn ogystal â staff HCT. Dw i’n siŵr bydd y llwyddiant yma ond yn atgyfnerthu’r awydd i ddysgu a gwella sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.”

Mae HCT yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddiaeth Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Plymio, Trydan, Gof, Amaethyddiaeth, Mecaneg Modur a Weldio. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â HCT ar 01970 633040. Gallwch hefyd ddod o hyd i HCT ar Facebook, https://www.facebook.com/HyfforddiantCeredigion, neu ewch i'r wefan, www.ceredigion.gov.uk/public-it/hct/index.html.

25/06/2018