Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) yn parhau i gefnogi eu dysgwyr mewn cystadlaethau sgiliau ledled y DU. Bayley Harries, a gymhwysodd fel triniwr gwallt lefel 2 yn ddiweddar, yw’r diwethaf i gael llwyddiant.

Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) yn parhau i gefnogi eu dysgwyr mewn cystadlaethau sgiliau ledled y DU. Bayley Harries, a gymhwysodd fel triniwr gwallt lefel 2 yn ddiweddar, yw’r diwethaf i gael llwyddiant.

Ym mis Mehefin, cystadlodd Bayley yn Rowndiau Rhanbarthol (Cymru) yng Nghystadleuaeth Trin Gwallt y World Skills UK yn Weston Super Mare. Oherwydd ei pherfformiad trawiadol, enillodd le yn rownd derfynol y digwyddiad World Skills UK Live, a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham rhwng 21 a 23 Tachwedd 2019.

Yn ystod ei hamser yn HCT, mae Bayley wedi llwyddo mewn cystadleuaeth sgiliau trin gwallt Cymru gyfan yn ogystal â chael llwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2017 a 2018.

Hoffai holl staff a chyd-ddysgwyr HCT longyfarch Bayley yn ei llwyddiant diweddaraf a dymuno’r gorau iddi yn Birmingham ym mis Tachwedd.

Dywedodd Carys Randell, Tiwtor Trin Gwallt yn Hyfforddiant Ceredigion, "Rwy'n hynod falch o Bayley a’i datblygiad. Mae safon y trinwyr gwallt yn y cystadlaethau hyn yn uchel iawn, ac mae hi wedi cyflawni cymaint. Edrychaf ymlaen at ei chefnogi yn y rownd derfynol.”

Catrin Miles yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Meddai, "Mae'n wych gweld myfyrwyr fel Bayley yn llwyddo ac yn gallu arddangos eu talent a'u gwaith caled trwy gystadlaethau fel rhain. Mae HCT yn lle pwysig iawn i bobl ifanc gael y cyfleoedd hyn i ddysgu, i gystadlu ac i ragori. Dymunaf y gorau i Bayley ar gyfer y gystadleuaeth derfynol ym mis Tachwedd.”

Mae HCT yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, yn cynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Plymio, Trydan, Gwaith Gofaint, Amaethyddiaeth, Mecaneg Moduron a Weldio.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook drwy chwilio am Hyfforddiant Ceredigion Training neu ewch i’r wefan: http://www.ceredigiontraining.co.uk/hafan.

11/09/2019