Bydd ymgynghoriad ar y cynnig i adeiladu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron yn cael ei gynnal ar ôl derbyn cymeradwyaeth o’r Cabinet mewn cyfarfod ar 22 Ionawr 2019.

Bydd y cynnig am ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron yn golygu bod Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ysgol Gynradd Dihewyd, Ysgol Gynradd Felinfach, ac Ysgol Gynradd Cilcennin yn ymuno mewn i un ysgol. Bydd y cynnig yma ddim yn cynnwys Ysgol Gynradd Cilcennin os yw penderfyniad ar wahân yn cael ei gymryd i gau’r ysgol ar ddiwedd mis Awst 2019.

Byddai’r cynnig yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi ei gynnwys yn Strategaeth Gorfforaethol y cyngor ar gyfer 2017-2022. Bydd angen i’r cyngor i gynnig arian cyfatebol gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ysgol ardal newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Mae ysgolion yn rhan bwysig o wead ein cymunedau. Mae unrhyw newid i hyn yn golygu bod rhaid i ni wrando ar y cymunedau y bydd yn cael eu heffeithio. Dw i’n annog unrhyw berson sydd eisiau ddweud eu dweud i wneud hynny. Bydd unrhyw ysgol newydd yn gwasanaethu’r gymuned, felly mae ond yn iawn yn bod yn clywed o’r cymunedau hynny.”

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 4 Chwefror 2019.

23/01/2019