A oeddech chi’n gwybod bod Cyngor Sir Ceredigion yn darparu leinwyr cadi gwastraff bwyd am ddim i drigolion Ceredigion ers 1 Ebrill 2018?

Gallwch eu casglu o Swyddfeydd Arian y Cyngor, Llyfrgelloedd, Canolfannau Croeso a rhai siopau annibynnol ledled y sir. Yn ogystal, gellir casglu bin gwastraff bwyd newydd o Swyddfeydd Arian y Cyngor.

Bu Jonathan Merrett, Uwch-arolygydd y criw casglu gwastraff yn depot Penrhos, ger Llandysul, yn egluro pwysigrwydd defnyddio’r leinwyr, “Mae ein criwiau casglu gwastraff yn gwneud gwaith rhagorol, ac yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i geisio sicrhau y cesglir gwastraff pawb. Rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf o drigolion wirioneddol yn gwerthfawrogi’r hyn yr ydym yn ei wneud ac yn ceisio ein helpu ni i wneud ein gwaith. Un ffordd syml y gall trigolion ein helpu ni yw trwy ddefnyddio’r leinwyr gwastraff bwyd am ddim y mae’r cyngor yn eu darparu. Fel y gallwch ddychmygu, gall gorfod gwagio biniau heb leinwyr fod yn waith annymunol iawn i’n criw. Rydym yn diolch i’r holl drigolion sydd wedi dechrau manteisio ar y leinwyr am ddim ac mae gan ein criwiau gyflenwad o’r rhain i gynnig i drigolion sydd angen mwy ohonynt.”

Mae’r cyngor yn casglu’r holl wastraff bwyd ac yn ei anfon at safle Treulio Anaerobig er mwyn ei drin. Mae’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle yn ystod y broses drin yn cael ei drosglwyddo i’r grid cenedlaethol. Mewn blwyddyn, cynhyrchir digon o drydan drwy ddefnyddio gwastraff bwyd Ceredigion i bweru oddeutu 300 o gartrefi. Cynhyrchir deunydd tebyg i slyri yn rhan o’r broses ac mae’n cael ei ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol ger y safle trin.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Amgylcheddol, “Mae’r amgylchedd lleol, cenedlaethol a byd eang yn rhywbeth y mae’r Cyngor yn ei gymryd o ddifrif. Rwy’n annog trigolion i fanteisio ar y leinwyr am ddim. Mae oddeutu 40% o wastraff bwyd y sir yn dal i gael ei roi mewn bagiau bin du - mae trin y gwastraff hwn yn costio ddwywaith gymaint i’r gwasanaeth o’i gymharu â thrin gwastraff bwyd sy’n cael ei roi yn bin gwastraff bwyd. Felly, drwy roi eich gwastraff bwyd yn y biniau gwastraff bwyd, gallwn ni i gyd helpu’r amgylchedd, lleihau’r gost a gwneud gwaith ein criwiau casglu gwastraff yn fwy dymunol. Mae’n wasanaeth rhagorol ac mae’r leinwyr am ddim yn ei wneud yn hawdd i’w ddefnyddio.”

Peidiwch ag anghofio, gellir rhoi’r holl gynnyrch canlynol yn eich cadi gwastraff bwyd: bwyd wedi’i goginio neu fwyd amrwd heb becyn; ffrwythau a llysiau; cig a physgod ac esgyrn; cynnyrch llaeth; bagiau te a choffi mâl; plisgyn wy; bwyd sydd wedi mynd yn hen; bara a chacennau; gwastraff bwyd o blatiau; ychydig bach o olew llysiau; hancesi papur; tywelion papur a phapur cegin.

Am fwy o wybodaeth ynghylch lle y gellir casglu’r leinwyr gwastraff bwyd am ddim neu gael biniau gwastraff bwyd newydd, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff neu cysylltwch â ni ar 01545 570 881.

15/01/2019