Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a gyflwynodd gyfnod atal byr ledled Cymru, ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn cau’r ffyrdd yn ddyddiol o fewn y parthau diogel rhwng 6pm ddydd Gwener, 23 Hydref ac 11am ar 09 Tachwedd.
Bydd rhai agweddau yn aros lle mae newidiadau ar waith 24/7 neu os oes cyfyngiadau parcio dros dro yn berthnasol. Bydd meysydd parcio cyhoeddus sy'n eiddo i'r Cyngor yn parhau am ddim yn ystod y cyfnod hwn i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Parth Diogel – Addasiadau diweddar
Mae mân welliannau pellach wedi dod i rym yr wythnos hon, sef:
- Yn Aberaeron, bydd parcio ar y stryd yn dychwelyd rhwng Cadwgan a chyffordd Heol y Farchnad.
- Yn Aberystwyth, mae mynediad deiliad glas rheoledig i Y Porth Bach o Stryd Portland yn ogystal â mynediad rheoledig i y Ffynnon Haearn o Ffordd y M
- Yn Aberteifi, bydd mynediad i ddeiliaid Bathodyn Glas rheoledig ar hyd y Stryd Fawr.
Mae’r parthau diogel yn cael eu hadolygu bob pythefnos yn unol â chyfradd yr haint a'r dystiolaeth sydd ar gael. Gwneir cyhoeddiad pellach cyn 09 Tachwedd.
Mae mwy o wybodaeth i'w gweld ar dudalen Parthau Diogel y Cyngor.
21/10/2020