Mae addasiadau i Barthau Diogel Ceredigion wedi’u cynllunio ar gyfer y Pasg.

Rhoddwyd y Parthau Diogel ar waith ym mis Gorffennaf 2020 yn wreiddiol. Prif ddiben y Parthau Diogel a mesurau eraill a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yw helpu i ddiogelu iechyd ein cymuned drwy leihau'r risg o heintiau Covid.

Ledled Cymru, mae’r cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uwch nag yr oeddent yr haf diwethaf, felly mae angen mesurau o hyd i leihau’r risg wrth i gyfyngiadau Cymru gyfan gael eu llacio, ac wrth i gyfyngiadau'r DU gael eu llacio yn fuan wedi hynny. Mae disgwyl i fwy o bobl ddod i Gymru a Cheredigion ar eu gwyliau, felly mae angen i ni fod â mesurau ar waith sy'n helpu pobl i ymweld â siopau a gwasanaethau yn ein trefi'n ddiogel.

Bydd y trefniadau arfaethedig ar gyfer llacio’r cyfyngiadau presennol yn cael effaith. O 27 Mawrth ymlaen, mae llety hunanarlwyo yn debygol o ailagor a bydd pobl yn gallu teithio fel y dymunant yng Nghymru. Yna o 12 Ebrill ymlaen, mae’n debygol y bydd mwy o unedau manwerthu yn cael agor, bydd llety hunanarlwyo yn agor yn Lloegr ac mae’r cyfyngiadau teithio rhwng Cymru a Lloegr yn debygol o newid, a disgwylir y bydd myfyrwyr hefyd yn ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb.

Gofynnwyd am adborth ar y Parthau Diogel a gyflwynwyd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd. Croesawyd yr adborth ac fe'i hystyriwyd wrth roi cynlluniau ar waith ar gyfer y Pasg.

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyfnod gwyliau'r Pasg o'r wythnos sy'n dechrau ar 29 Mawrth. Mae'r newidiadau'n adlewyrchu'r adborth a dderbyniwyd. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu monitro a'u hadolygu ar gyfer yr haf.

Mae'r trefniadau ar gyfer parthau diogel Ceredigion ar gyfer y Pasg fel a ganlyn:

  • Aberaeron – cadw'r cynllun presennol gyda rhai newidiadau i'r ddarpariaeth barcio yn y dref, gan gynnwys darpariaeth Bathodyn Glas ychwanegol.
  • Aberteifi – cau mannau parcio ar y stryd fawr i ganiatáu mwy o le i gerddwyr. Mae mesurau mwy helaeth wedi'u cynllunio ar gyfer yr haf sy'n cynnwys cynlluniau ffyrdd newydd.
  • Aberystwyth – cau’r ffyrdd yn ddyddiol unwaith eto ond gwneud newidiadau sy’n caniatáu mynediad i Stryd y Bont a Stryd y Frenhines; cyflwyno system unffordd yn Heol y Wig; gwrthdroi cyfeiriad y traffig yn Stryd y Popty a Stryd y Gorfforaeth; darparu mwy o fannau parcio i ddeiliaid bathodynnau glas yn Stryd y Popty; caniatáu mynediad o’r promenâd ar hyd Ffordd y Môr a Stryd y Baddon; a chaniatáu mynediad i Lôn Cambria.
  • Borth – creu rhai mannau pasio i gerddwyr a chodi mwy o arwyddion.
  • Ceinewydd – cau ffyrdd unwaith eto a gwneud mân newidiadau.

Bydd y ffyrdd yn cael eu cau bob dydd yn Aberystwyth rhwng 11am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Yn Cei Newydd bydd ffyrdd yn cau rhwng 12 ganol dydd a 5pm bob dydd. Bydd cau y ffyrdd yn ddyddiol yn dod i ben am 5pm ar 17 Ebrill yn y ddwy dref.

Mae angen i’r cyhoedd barhau i fod yn ofalus ac yn wyliadwrus wrth i’r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno. Diolchwn i drigolion ac ymwelwyr am ddilyn y canllawiau er mwyn sicrhau diogelwch pawb yng Ngheredigion.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we ynglŷn â’r Parthau Diogel ar wefan y Cyngor.

18/03/2021