Mae trefniadau wedi'u rhoi ar waith ar gyfer Ceredigion yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Lefel Rhybudd 4 wedi dod i rym yng Nghymru.

Mae Llyfrgelloedd Ceredigion bellach ar gau hyd nes y clywir yn wahanol, gan gynnwys y gwasanaeth clicio a chasglu.

Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion yn aros ar agor gan weithredu yn ystod oriau gwaith arferol. Anogir trigolion i beidio ag ymweld â’r safleoedd oni bai bod hynny’n hanfodol, ac os na ellir storio’r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os na ellir eu casglu yn rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff domestig arferol. Mae rheolau’r safleoedd ar waith er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion yn ogystal â staff ar y safleoedd. Dyma’r rheolau:

  • Dim ond cerbydau sydd ag eilrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n eilrifau (e.e. 2,4,6,8,10,12 etc.).
  • Dim ond cerbydau sydd ag odrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n odrifau (e.e. 1,3,5,7,9,11 etc.).
  • Bydd cyfyngiadau llym o ran nifer y cerbydau sy’n gallu cael mynediad i’r Safle Gwastraff Cartref ar unrhyw un adeg.
  • Gall uchafswm o ddau berson o’r un cartref adael y cerbyd er mwyn cael gwared â’r gwastraff a helpu ei gilydd gydag eitemau mwy neu drymach ar y safle; ni fydd unrhyw gymorth ar gael gan staff y safle i ddadlwytho unrhyw eitemau.
  • Dim ond mewn cerbyd y bydd trigolion yn gallu cael mynediad i’r safle; bydd trigolion sy’n cyrraedd ar droed yn cael eu troi ymaith.
  • Ni chaniateir ailddefnyddio eitemau – dim ond er mwyn cael gwared â gwastraff y caniateir i drigolion ddefnyddio’r safleoedd, ac ni chaniateir i drigolion fynd ag eitemau gyda nhw o’r safleoedd.
  • Ni chaniateir i faniau na threlars ddefnyddio’r Safleoedd Gwastraff Cartref ar hyn o bryd.
  • Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref ar gyfer gwastraff domestig yn unig. Ni dderbynnir unrhyw wastraff masnach yn y Safleoedd Gwastraff Cartref.
  • Mae’r uchod yn ychwanegol at reolau presennol y safleoedd

Bydd y trefniadau presennol ar gyfer meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Ceredigion yn parhau.

Bydd holl ganolfannau hamdden, pyllau nofio a chyfleusterau'r Cyngor yn aros ar gau, a bydd Cartrefi Gofal y Cyngor ar gau i ymwelwyr, yn unol â Lefel Rhybudd 4.

Ni ddylid teithio'n ddiangen heb esgus rhesymol. Ni chaniateir teithio i Geredigion am wyliau ac mae disgwyl i unrhyw ymwelwyr sydd eisoes yng Ngheredigion ddychwelyd adref ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys y rheini sy'n aros yn eu hail gartrefi yn y sir a ddylai ddychwelyd i'w prif gartref.

Yr anrheg orau y gallwn ni ei rhoi i’n teuluoedd eleni yw Nadolig heb COVID-19. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau y gallwn gyflawni hyn.

Bydd y trefniadau hyn yn parhau hyd nes y clywir yn wahanol.

Caiff yr holl wasanaethau hyn eu hamlinellu a'u diweddaru'n rheolaidd yng Nghynllun y Ffordd Ymlaen i Geredigion, sydd i'w weld ar wefan y Cyngor: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/ceredigion-achosion-or-pandemig-covid-19/cynllun-y-ffordd-ymlaen-i-geredigion/

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

22/12/2020