Mae trigolion Ceredigion yn cael eu rhybuddio y gallant wynebu dirwyon o hyd at £10,000 a chollfarn droseddol os ydynt yn torri rheolau COVID.

Daw'r rhybudd ar ôl i ddirwyon enfawr gael eu rhoi i drefnwyr partïon a digwyddiadau torfol yn ddiweddar.

Yn rhan o’r cyfnod atal byr cenedlaethol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ac er mwyn achub bywydau ac atal y GIG rhag cael ei lethu, mae’n rhaid i bobl yng Nghymru ddilyn rheolau llym, gan gynnwys aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn, a pheidio ag ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw.

Byddai methu â dilyn y rheolau yn arwain at hysbysiadau cost benodedig o £60, a fyddai’n cynyddu i £120 ar gyfer ail drosedd ac a fyddai’n parhau i ddyblu ar gyfer troseddau pellach hyd at uchafswm o £1,920. Os caiff unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi dirwy ddiderfyn. Mae trefnu digwyddiad cerddoriaeth didrwydded ar gyfer mwy na 30 o bobl yn drosedd ar wahân y gellir ei chosbi drwy gollfarn a dirwy ddiderfyn neu, yn lle collfarn, drwy gosb benodedig a bennir ar £10,000.  

Robyn Mason yw Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys. Dywedodd: "Gadewch i ni fod yn glir – mae mesurau’r cyfnod atal byr yn berthnasol i bawb yng Nghymru. Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru a’i hymdrechion i adennill rheolaeth dros y coronafeirws ar draws ein cymunedau, ac mae ein swyddogion a'n Swyddogion Cymorth Cymunedol yn bod yn rhagweithiol er mwyn helpu i’n cadw i gyd yn ddiogel. Ein dull yn y lle cyntaf yw ymgysylltu â phobl, egluro'r hyn sydd angen i chi ei wneud ac annog cydymffurfiaeth. Ond i'r rheini nad ydynt yn ymateb, mae gennym ni bwerau a byddwn ni'n eu defnyddio.

“Mae angen i bawb ddeall pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa ac y gallai’r effaith ar iechyd unigolion a’u hanwyliaid fod yn ddifrifol iawn, a dylai hyn wneud iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau heb orfod cyflwyno cosbau. Ond os byddant yn gwrthod cydymffurfio, byddwn yn gorfodi. Mae llwyddiant y cyfnod atal byr yn dibynnu ar bob un ohonom yn chwarae ein rhan. Mae’n syml, cyn mynd i unrhyw le neu wneud unrhyw beth, gofynnwch i chi’ch hun a yw’n wirioneddol angenrheidiol.”

Ros Jervis yw cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chadeirydd Tîm Rheoli Achos Lluosog Ceredigion, sef partneriaeth amlasiantaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Tîm Olrhain Cysylltiadau Ceredigion ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Sefydlwyd y Tîm Rheoli Achos Lluosog i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws yn y sir. Dywedodd: “Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn diogelu eu hunain ac eraill, mae’n amlwg nad yw lleiafrif bach yn dilyn y rheolau, sydd yn ei dro yn peryglu iechyd a hyd yn oed bywydau pobl. Rwy'n annog pobl yn gryf i ddilyn y rheolau, cynnal pellter cymdeithasol, gwisgo masgiau, golchi dwylo'n rheolaidd, a chael prawf os oes ganddynt unrhyw symptomau - peswch newydd a pharhaus, methu ag arogli neu flasu, neu dymheredd uchel.”

Ym Manceinion, derbyniodd trefnydd parti lle roedd mwy na 50 o bobl yn bresennol ddirwy o £10,000 am dorri rheoliadau Covid-19. Yn y cyfamser, yn Nottingham derbyniodd pedwar myfyriwr ddirwy o £10,000 am dorri cyfyngiadau’r cyfnod clo drwy gynnal parti yn eu cartref. 

Mae’n rhaid archebu profion drwy borth ar-lein y DU https://llyw.cymru/coronafeirws 

03/11/2020