Mae ‘Tlws yr Eidalwyr’ wedi dychwelyd i Geredigion cyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020. Mae’r tlws yn cael ei drosglwyddo o un cyngor sir i’r llall wrth i’r Eisteddfod deithio o amgylch Cymru.

Cafodd y Tlws ei drosglwyddo i Gyngor Sir Ceredigion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn seremoni trosglwyddo ar y Maes yn Eisteddfod Llanrwst eleni. Fe dderbyniodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y tlws gan Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Samuel Rowlands.

Er bod cartref y tlws yn newid yn flynyddol, mae ganddo wreiddiau dwfn yng Ngheredigion. Cafodd ei ddylunio gan y gemydd adnabyddus Rhiannon Evans sydd ei hun yn dod o gartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020, Tregaron fel y mae Iestyn Evans, a luniodd y gwaith arian. Dafydd Jones o Lanybydder a weithiodd ar y llechen a Conway Morgan o Bentre’r-gât a greodd y plinth dderwen.

Fe’i henwir yn Dlws yr Eidalwyr oherwydd cysylltiad unigryw’r Cymry â charcharorion rhyfel Eidalaidd a fu’n cael eu cadw yn Henllan yn Ne Ceredigion am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r rhyfel, roedd cymdeithas o gyn-garcharorion Henllan am gyflwyno tlws parhaol fel arwydd o ddiolch i’r Cymry am y cyfeillgarwch, caredigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd i’r Eidalwyr tra’r oeddent yn garcharorion yn Henllan.

Mae’r tlws trawiadol yn dangos yn glir y geiriau ‘Heddwch’ ac ‘Amicizia’, sef yr Eidaleg am ‘frawdgarwch’.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Roedd hi’n fraint derbyn Tlws yr Eidalwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Mae gwreiddiau’r tlws yng Ngheredigion ac yn wir yn rhannol yn Nhregaron. Mae neges galonogol y tlws yn parhau i fod yn bwysig ac yn gyfredol yn ein byd heddiw. Fe ddatblygodd perthynas arbennig rhwng y carcharorion rhyfel Eidalaidd a thrigolion Henllan – mae’r tlws yn ffordd hyfryd a thrawiadol o nodi’r berthynas honno.

Yn yr un ysbryd, edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020.”

Bydd y tlws yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2020.

09/10/2019