Mae’r tîm Pobl Ifanc Egnïol wedi bod yn gweithio’n rhithiol ers y cyfnod clo er mwyn ymateb i anghenion plant a phobl ifanc dros y misoedd diwethaf.

Yn ystod y cyfnod clo, pan nad oedd pobl ifanc yn gallu cwrdd, trodd tîm Pobl Ifanc Egnïol Cyngor Sir Ceredigion at gysylltu â’u cynulleidfa drwy wahanol lwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol. Sicrhaodd hyn bod y neges bwysig yn cael ei chyfleu, sef fod bod yn egnïol yn cael effaith gadarnhaol ar les corfforol a meddyliol.

Mae’r enw defnyddiwr @CeredigionActif wedi cael ei ddefnyddio’n rheolaidd ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube er mwyn rhannu fideos gan arweinwyr ifanc, gwersi Addysg Gorfforol, gemau, gweithgareddau a negeseuon ysbrydoledig. Defnyddiwyd nifer o wahanol lwyfannau er mwyn cyrraedd cynifer o bobl ifanc a theuluoedd â phosibl.

Mae’r tîm wedi cynhyrchu 90 o fideos gyda’r nod o gael pobl ifanc yn eu harddegau, disgyblion oedran ysgol gynradd a phlant bach dan oed ysgol i fod yn egnïol yn ystod y cyfnod pan oeddent gartref. Mae clybiau lleol wedi ymuno gyda negeseuon a gweithgareddau pellach.

Rhannwyd gwersi rheolaidd gyda phob ysgol gynradd fel y gallai plant ddilyn dosbarthiadau â strwythur iddynt gartref, a hyrwyddwyd sesiynau cynhwysol drwy bartneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru. Nod y tîm Pobl Ifanc Egnïol yw hyrwyddo pa mor bwysig yw bod yn egnïol a sut y gall effeithio ar gymaint mwy na ffitrwydd pobl.

21/09/2020