Robin Hood and the Babes in the Wood’ yw Pantomeim y Little Mill Players eleni. Bydd y perfformiadau yn Theatr Felinfach o Nos Iau 30 Ionawr i Nos Sadwrn 01 Chwefror am 7:30pm. Cynhelir perfformiad matinée hefyd ar brynhawn Sadwrn, 01 Chwefror am 2:30yp.

Efallai mai Robin Hood yw'r saethwr gorau yn yr ardal, ond a wnaiff e lwyddo i ddianc o grafangau Siryf Nottingham ac achub y babanod? Dewch i ymuno â Winnie Widebottom, Marion, Little Joan, Friar Tuck a’r cymeriadau eraill (a hefyd, er syndod, Sefydliad y Merched ‘Smugglers Cove’ sydd wedi dod i Goedwig Sherwood ar wyliau gwersylla a llwyddo i gael eu dal yn yr antur). Dewch i floeddio, hisian a chael gwledd o hwyl trwy chwerthin a chân yn y cynhyrchiad teuluol hwn.

Mae'r Little Mill Players wedi bodoli ers cychwyn Theatr Felinfach yn 1972. Daw aelodau'r cwmni o wahanol rannau o Geredigion a hyd yn oed Sir Gaerfyrddin. Mae ystod oedran y cast yn amrywio o 7 i 60+ ac mae eu swyddi'n amrywio o waith llafur i reolwyr yn ogystal â disgyblion ysgol a myfyrwyr. Eleni maent wrth eu bodd eto o gael sawl wyneb newydd ac maent yn obeithiol y bydd y duedd hon yn parhau.

Mae cyfarwyddwr y sioe, Stephen Entwistle, wedi bod yn aelod o’r grŵp ers dros 16 mlynedd. Dechreuodd fywyd gyda'r grŵp fel y Cyfarwyddwr Cerdd, yna aeth ymlaen i'r llwyfan a bellach ef yw'r bos!

Un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y cast cyfredol yw Dilys Megicks, cynorthwyydd cynhyrchu’r sioe, ac mae wedi bod yn aelod ers rhyw 24 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi portreadu amrywiaeth eang o gymeriadau gan gynnwys dynes ddrwg, cyw iâr ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Sefydliad y Merched Smuggler's Cove! Mae hi'n mwynhau pob agwedd o’r pantomeim traddodiadol.

Aelod arall, sydd bellach yn aelod sefydlog o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd, dros y blynyddoedd, wedi perchenogi rôl y panto ‘Dame’ iddo’i hun. Yn sicr, fe yw digrifwr y cast. Mae Andrew hefyd yn gyfrifol am adeiladu propiau ac unrhyw anghenion adeiladu ar gyfer y cynhyrchiad.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook Theatr Felinfach i gael cyfleoedd i ennill tocynnau i'r cynhyrchiad. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach ar 01570 470697 neu ar-lein drwy theatrfelinfach.cymru. Prisiau'r tocynnau yw £9 i oedolion, 8 i bensiynwyr a £6 i blant.

15/01/2020