Ar ddiwedd yr hanner tymor diwethaf, cynhaliwyd te parti yn Ysgol Y Dderi i ddathlu ymddeoliad Mair Spate, ar ôl gweithio am 42 o flynyddoedd yn casglu arian cinio.

Dywedodd Heini Thomas, Pennaeth Ysgol y Dderi, “Hoffwn ddymuno ymddeoliad hapus iawn i Mrs Mair Spate wedi 42 o flynyddoedd yn Ysgol Y Dderi. Mae Mrs Spate wedi gweithio yn yr ysgol ers y cychwyn cyntaf ac wedi casglu arian cinio’r plant yn ddiwyd dros y degawdau. Cynhaliwyd te parti iddi dan ofal Clwb Coginio’r ysgol a chyflwynwyd rhodd iddi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth diflino. Mi fydd yn rhyfedd iawn hebddi ond dymunwn ymddeoliad hir a hapus iddi.”

Dechreuodd Mair weithio yn Ysgol y Dderi, Llangybi pan agorodd am y tro cyntaf yn 1976.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Dysgu, “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion hoffwn longyfarch Mair am ei ymroddiad i Ysgol y Dderi dros y blynyddoedd a dymuno ymddeoliad braf iddi.”

 

07/11/2018