O’r 11 hyd at 26 Chwefror 2019, bu Andrea DeRome, Swyddog Mynediad i Gasgliadau yn Amgueddfa Ceredigion, i Batagonia yn yr Ariannin i ymchwilio i deithiau arloesol ar gyfer arddangosfa dros dro yn Amgueddfa Ceredigion o’r enw ‘Gan ei fod yno’. Llwyddwyd i fynd ar y siwrnai trwy gymorth gan gynllun grantiau teithio ICOM UK - y Cyngor Prydeinig 2018-19.

Sir arfordirol yw Ceredigion, gyda Bae Ceredigion yn rhedeg ar hyd ei hymyl gorllewinol am 60 milltir. Mae gan Amgueddfa Ceredigion gasgliad gwych o offer mordwyaeth sy’n talu teyrnged i’r cyfnod pan oedd ceirt yn cael trafferth ar hyd llwybrau mwdlyd a’r trên stêm ddim eto’n bodoli; byddai pobl yn masnachu, yn teithio ac yn ffoi tua’r gorllewin ar gwch.

Esbonia Andrea ei diddordeb â’r cefnfor, “Fe’m swynwyd gan hanesion teithwyr y môr a dychmygais fordeithiau hir, gweddïo am i drobwll beidio â sugno’r cwch, a disgwyl am wyntoedd tawelach ac awyr gliriach. Roeddwn yn chwilfrydig ynghylch yr offer a ddefnyddiwyd i fordwyo a chrwydro gan ddilyn y sêr, ac yn llawn edmygedd at y rheiny a aeth i’r môr.”

Cychwynnodd un fordaith arloesol o’r fath ar 28 Mai, 1865 pan hwyliodd y ‘Mimosa’ am Batagonia yn yr Ariannin. Cymerodd 60 diwrnod i’r llong gyrraedd pen ei thaith, ar drugaredd y gwynt a’r tonnau, a bu pedwar person farw, ganwyd dau faban a phriododd un cwpwl ar hyd y ffordd. Ar y llong yr oedd 153 o deuluoedd o Gymru a oedd yn ceisio man gwyn man draw Cymraeg ei iaith. Roeddent yn pryderu bod eu hiaith a’u gwerthoedd yn diflannu ymysg newidiadau lu y Chwyldro Diwydiannol.

Ar ôl iddynt lanio o’r diwedd, nid oedd dim yno ac roedd yn aeaf ar y cyfandir hwnnw. Addawyd tir ffrwythlon iddynt ond nid dyna oedd; bu’n rhaid iddynt greu eu hannedd gyntaf mewn ogof a goroesi drwy garedigrwydd y bobl frodorol.

Roedd siwrnai Andrea i Batagonia yn dra gwahanol, meddai. “Es ar yr awyren yn Gatwick, Llundain. Erbyn hynny roeddwn wedi teithio am wyth awr o Aberystwyth i Lundain. 14 awr yn ddiweddarach, ar ôl hedfan yn yr wybren am 6,910 o filltiroedd, glaniais yn yr Ariannin. Des ar draws y seilwaith a wnaed gan y gwladfawyr cyntaf ar hyd y 430 o filltiroedd rhwng Porth Madryn a Threvelin, gwlad eang, brydferth ac iddi dirwedd amrywiol. Es i’r Tŷ Cyntaf yn nhref y Gaiman a adeiladwyd o garreg a mwd yn 1874. Cwrddais â bobl falch, llawn bywyd a oedd yn parchu’r diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg ac a oedd yn ystyried y gwladfawyr cyntaf yn “olwynion Patagonia – llwyddon nhw i yrru Patagonia yn ei blaen.” Gwelais gymunedau, capeli ac ysgolion yn cydweithio i gadw’r iaith. Gwerthfawrogais y dylanwad parhaus y mae hanes ein sir wedi’i gael ar y byd.”

Dywed Carrie Canham, Curadur yn Amgueddfa Ceredigion, “Mae’r gefnogaeth gan gynllun grantiau teithio ICOM UK - y Cyngor Prydeinig 2018-19 wedi rhoi persbectif rhyngwladol i ni - a ninnau’n amgueddfa yn y Gymru wledig - a fydd o fudd i’r staff ac ymwelwyr. Saif Aberystwyth ar ben draw’r rhwydwaith rheilffordd, ar ddiwedd y lein ymddengys, ond bellach rydym yn gallu dehongli ein cymdogaeth fel man cychwyn ar gyfer ymfudwyr eofn a aeth yn eu blaenau i fannau pellennig, er mor ddieithr oedd y mannau hynny.”

Mae’r arddangosfa ‘Gan ei fod yno’ yn bwrw golwg ar y syniad o deithio a darganfod: y dyhead i fynd y tu hwnt i’r gorwel, croesi’r moroedd, dringo’r copa, hedfan ymysg y sêr, darganfod rhywbeth am ei fod yno neu am fod si ei fod yno. Mae’r arddangosfa yn cynnwys yr offer a’r peiriannau a sicrhaodd fod y pethau hyn yn bosibl ac yn datgelu straeon am bobl ddewr a fentrodd er mwyn darganfod o’r newydd.

Mae ‘Gan ei fod yno’ yn cael ei lansio ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf a bydd yn para hyd 12 Hydref 2019. Curadur yr arddangosfa yw Andrea DeRome.

Ymwelwch â www.ceredigionmuseum.wales/hafan/ am ragor o wybodaeth.

26/07/2019