O Ebrill 2019 ymlaen hyd yr hydref, bydd cyfres o bosteri ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ yn cael ei chyhoeddi drwy gyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion. Bydd llwybrau hir a byr yn cael eu cynnig mewn mannau ledled y sir felly fe ddylai fod rhywbeth i bawb dros yr haf i fwynhau.

Clogwyni uchel, cilfachau cysgodol, cymoedd coediog, bryniau ymdonnog, dyffrynnoedd glas, nentydd parablus – a’r rhain oll yn gyforiog o fywyd gwyllt ac yn rhan o dirwedd lle mae pobl yn byw a gweithio. At y mosaig hwn gellir ychwanegu trefi, pentrefi a ffermydd sydd oll yn cyfrannu at swyn Ceredigion i drigolion y sir ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Drwy lwc, mae dros 2500km o Lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cyd-blethu ledled y sir ac yn cynnig mynediad i’r rheiny sydd am fentro allan ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl i fannau a fyddai fel arall o’r golwg.

Yn ogystal ag esgidiau cadarn sy’n dal dŵr, dillad sy’n briodol i’r tywydd, dŵr yfed, a map OS diweddar o’r ardal; gall cerddwyr gymryd copi e-daflen o'r llwybrau i helpu i'w harwain ar eu ffordd.

Mae e-daflenni llwybrau a hyrwyddir ar gael o'r Adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wefan y Cyngor. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â thref, pentref neu bentrefan ac yn dangos gwybodaeth ychwanegol megis proffil o’r llwybr, y pellter, sut wyneb sydd i’r llwybr, mannau parcio cyfleus ac a oes cyfleusterau eraill wrth law. Yn ogystal â’r e-daflenni, mae map rhyngweithiol sy’n dangos yr holl Lwybrau Tramwy Cyhoeddus fel bod modd i ddefnyddwyr gynllunio eu hanturiaethau eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, “Mae gan Geredigion gymaint i'w gynnig. Bydd hyrwyddo gwahanol lwybrau yn wythnosol nid yn unig yn annog twristiaid i ymweld ond hefyd yn annog pobl leol i gymryd rhan er mwyn gweld safleoedd prydferth Ceredigion.”

Bydd pob poster sy'n hyrwyddo llwybrau amrywiol yng Ngheredigion ar gael ar dudalen Caru Ceredigion ar wefan y cyngor o dan y pennawd 'Llwybrau cyhoeddus’ yr un amser a chyhoeddwyd ar gyfryngau cymdeithasol y cyngor.

Atgoffir y sawl sy’n defnyddio Llwybrau Tramwy Cyhoeddus fod y llwybrau hyn yn croesi tir preifat a bod angen dilyn y Côd Cefn Gwlad bob adeg.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu cysylltwch â 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o'r tîm Arfordir a Chefn gwlad.

09/04/2019