Ar nos Wener, 27 Mawrth 2020, daeth swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ar draws tafarn wledig yn gweini alcohol i gwsmeriaid ac yn gweithredu fel yr arfer yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Galwyd am gymorth yr Heddlu, a bydd hysbysiad gwahardd yn cael ei gyflwyno i’r Landlord yn awr. Nodwyd nifer o droseddau eraill, a bydd Pwyllgor Trwyddedu’r Cyngor yn llunio adroddiad.

Mae arolygiadau a gynhaliwyd gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor yn ystod yr wythnos hon wedi dangos bod y mwyafrif o fusnesau lleol wedi cau yn wirfoddol pan fu’n rhaid iddynt wneud hynny yn unol â’r rheoliadau brys. Mae busnesau eraill, lle caniateir iddynt wneud hynny, wedi arallgyfeirio o weini bwyd i’w fwyta ar eu safleoedd i ddarparu cludfwyd neu wasanaeth dosbarthu bwyd.

Mae safleoedd sydd wedi derbyn caniatâd i barhau ar agor wedi addasu’n ddiwyd ac yn gyflym i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae mwyafrif helaeth y gymuned yn cydnabod pwysigrwydd mesurau brys yn ogystal â’r angen amdanynt, ac wedi bod yn chwarae eu rhan yn fodlon.

Arolygwyd dros 70 o safleoedd yr wythnos diwethaf, ond dim ond un safle a fethodd â dilyn Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a gyflwynwyd.

Bydd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth, gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys os yn briodol. Bydd busnesau a safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau yn derbyn hysbysiadau gwahardd a dirwyon. Bydd busnesau sy’n parhau i fynd yn groes i’r mesurau yn cael eu gorfodi i gau. Mae’n bosib y gall unigolion a chwmnïau nad ydynt yn talu eu dirwyon gael eu dwyn i’r llys hefyd, a gall ynadon osod dirwyon diderfyn.

30/03/2020