Ar ddydd Sul, 17 Mehefin, dathlwyd Sul y Tadau gan deuluoedd ledled y sir, ond nid tadau biolegol oedd yr unig rai i nodi’r diwrnod.

Mae Robert* yn un o gannoedd o bobl sydd wedi mabwysiadu plentyn gyda chymorth Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru - timoedd mabwysiadu pedwar awdurdod lleol ar y cyd sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Dathlodd Robert Sul y Tadau eleni ar ôl iddo ef a'i wraig fabwysiadu plentyn ar ôl cael trafferth â beichiogi, ac mae wedi sôn am y 'fraint' y mae'n teimlo o gael bod yn dad a pham y mae'n annog eraill i wneud yr un peth. Dyma’i stori.

“Gadewch i ni ddechrau gan sôn am fater sylfaenol. Ni fydda i byth yn gwybod sut y mae'n teimlo i fod yn dad i blentyn sy'n ffrwyth fy ngenynnau a DNA. Dyma ddiwedd fy llinach waed teuluol. Mae nifer o bobl wedi dweud wrthyf yn y gorffennol fod plentyn biolegol yn gyfuniad prydferth o'ch nodweddion corfforol ac yn fynegiant pennaf o'r cariad sydd rhwng pâr (er hynny, mae'r person olaf i ddweud hynny wrthyf bellach wedi ysgaru). Cafodd fy ngwraig a minnau driniaeth ffrwythlondeb er mwyn ceisio am y ddelfryd hwn, ac yn y pen draw, yr anrheg a roddodd yr ymgynghorwyr inni oedd sicrwydd llwyr nad oedd y triniaeth yn mynd i lwyddo.

“Rhoddodd hyn y cyfle i ni ddilyn y trywydd mabwysiadu, a oedd wedi ein harwain at fachgen prydferth 11 mis oed yn ymuno â'n teulu. Mae wedi bod yn rhan o'n teulu am dros flwyddyn erbyn hyn. I fod yn onest, dydw i ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth rhwng yr hyn y dwi'n ei wneud gyda fy nghrwt a'r hyn y mae tadau eraill yn ei wneud, na chwaith gwahaniaeth yn ein mwynhad. Rydym yn chwerthin yr un fath, yn chwarae'r un fath, yn llefain yr un fath, ac rydw i'n ei ddysgu i wneud pethau gwirion tra bo'i fam yn anobeithio. Rwyf wir yn credu fy mod yn teimlo yr un fath â nhw. Rwy'n ei garu a'm holl galon, byddwn i'n gwneud unrhyw beth i'w ddiogelu ac rwyf am sicrhau ei fod yn tyfu'n ddyn iach a chytbwys.

“Mae'n foi bach hapus ac mae'n datblygu'n dda. Os rhywbeth, rwy'n credu ei fod ar y blaen i blant eraill sydd yr un oed ag ef (ti'n gweld, rwy'n riant cystadleuol, ymffrostgar fel pob rhiant arall). Pan fyddaf yn dod adref o'r gwaith, mae'n gweiddi ‘Dadi’, ei freichiau ar led, ei wyneb yn llawn cyffro a'i lygaid yn llawn llawenydd. Yn sicr, nid yw'n amau ein perthynas glos fel tad a mab. Nid wyf am esgus bod popeth wedi bod yn rhwydd, ond mae ein perthynas priodasol wedi'i hadeiladu ar sylfeini cadarn sydd wedi helpu fy ngwraig a minnau i oresgyn yr adegau anodd. Mae'r gallu i chwerthin gyda'ch gilydd hefyd yn helpu llawer! Mae'n wir ein bod ar ddechrau ein taith fabwysiadu o gymharu â nifer o bobl eraill, ac mae profiadau pawb yn wahanol. Byddwn yn wynebu adegau anodd yn y dyfodol - rwy'n siŵr o hynny - ac rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydym wedi'i gael am rianta therapiwtig o ddydd i ddydd. Mae cymaint o lawenydd i ddod hefyd, drwy wylio ein crwt bach yn datblygu wrth iddo rannu ein diddordebau, gwerthoedd a'n hagwedd ar y byd.

“Yn sicr, dydw i ddim yn teimlo colled oherwydd nad oes gennyf blentyn biolegol. Yn hytrach, braint yw cael dechrau teulu drwy fabwysiadu. Rwy'n siŵr pe bawn i'n treulio gormod o amser yn meddwl am yr holl agweddau sylfaenol, byddwn i'n cynhyrfu'n rhwydd. Ond, a dweud y gwir, rwy'n cael gormod o hwyl i bryderu.”

Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru dimoedd mabwysiadu gyda’r bwriad o sicrhau bod plant yn tyfu yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion.

Mae Gwasanaethau Mabwysiadu Cyngor Sir Ceredigion yn helpu i ddod o hyd i deuluoedd eraill parhaol i blant sydd mewn gofal maeth dros dro ar hyn o bryd. Yn ystod 2017-18, cymeradwywyd 29 o fabwysiadwyr. Mae'r rhain yn cynnwys parau priod, parau di-briod, pobl sengl a pharau o'r un rhyw. Er hyn, mae angen rhagor o fabwysiadwyr gan fod y galw am leoliadau mabwysiadu wedi cynyddu eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, yr Aelod Cabinet am Wasanaethau Pant a Diwylliant: “Mae nifer fawr o fythau ynghylch meini prawf sydd eu hangen er mwyn mabwysiadu plentyn sydd ddim yn wir o gwbl. Y pethau mwyaf pwysig mewn mabwysiadwyr arfaethedig yw nodweddion personol, gwytnwch, dealltwriaeth o anghenion plant a'r gallu i ymrwymo i fod yn rieni, yn hytrach na ffactorau megis cyflogaeth, y cartref neu statws priodasol. Mae ein staff cyfeillgar o fewn y Gwasanaethau Mabwysiadau yn hapus i ymweld ag unrhyw un sydd yn meddwl am fabwysiadu i gael sgwrs anffurffiol a chyfrinachol.”

Os ydych chi’n meddwl am fabwysiadu ac am drafodaeth gychwynnol, ffoniwch 01545 570881 neu darllenwch mwy drwy ymweld a’r wefan www.adoptionmwwales.org.uk.

22/06/2018